Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelir ef yn y gyfrol. Dyma'i eiriau yntau ar ôl adrodd yr hanes i mi: "Yr oedd yn union fel pe buasai Morgan Llwyd ei hun, neu Tom Ellis, wedi penderfynu bod rhaid i'r llyfr ddyfod i'm llaw i." Darllener "Llythyrau Goronwy Owain" ganddo, a cheir enghreifftiau o'r un ddawn ddigymar. Nid rhag blaen yr adroddai'r hanesion hyn ychwaith. Byddai raid cael yr awyrgylch, rywfodd. Noswaith o aeaf ystormus, wrth dân coed yn y Cwrt Mawr, wedi siarad hyd oriau mân y bore, meddai'n sydyn: "Gwynn, fuoch chi rywdro ar ôl disgwyl cyfaill a siarad yn hir ag ef, yn teimlo rhyw fath o ofn rhag ei weled yn codi a mynd?" Addef hynny o gyd-brofiad, ac ni wn i bryd yr aethom i gysgu'r noswaith honno.

Wedi bod ieithyddion medrus wrthi'n ddysgedig yn egluro ystyr a tharddiad geiriau neu ffurfiau anghyffredin, gwelais ef fwy nag unwaith yn gwenu, ac yn dangos cofnod o ewyllys neu lythyr, yn profi unwaith am byth mai enw lle fyddai'r gair neu'r ffurf, wedi'r cwbl. Ac nid Cymraeg yn unig a ddarllenai. Yn wir, yr oedd yn un o'r darllenwyr helaethaf a adnabûm i erioed, a'i ddiddordeb yn cyrraedd i bob cyfeiriad. Dywedais eisoes fod cymeriadau'n ddiddorol iddo.