Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o lwyddiant y ddawn honno oedd dyfod o hyd i lawysgrifau Robert Roberts, "Yr Ysgolor Mawr."

Nid casglwr yn unig ydoedd chwaith. Gwyddai gynnwys ei lyfrau gyda manyldeb nodedig; gwyddai hanes eu hawduron neu eu hysgrifenwyr, hanes eu perchenogion a'u treigl o law i law. Clywais ef droeon yn adrodd hanes llyfr felly hyd ryw bwynt, ac yna'n cyfaddef na wyddai ba beth a ddaethai ohono wedyn, ond ymhen amser, cai hyd i'r trywydd drachefn, a gorffennai drwy brynu'r llyfr ei hun. Buasai hanes llawn am ei ymchwiliadau a'i lwyddiant yn beth rhamantus.

Un tro yr oedd yn Llundain yn chwilota'r mân lyfrau ail llaw a geir mewn bocsiau o flaen siopau yn Charing Cross Road. Daeth llyfryn Saesneg o amrywiol bamffledau i'w law dro ar ôl tro, nes iddo hanner digio wrtho, am nad oedd ynddo ddim at ei bwrpas. Aeth rhagddo at focs arall ac arall, ac yna yn ei ôl at y cyntaf. A dyma'r un llyfryn i'w law drachefn, a'i agor ar ddalen lle 'roedd y llythrennau "M.L." wrth droed traethodyn. Ar y pryd, yr oedd yntau'n golygu'r ail gyfrol o weithiau Morgan Llwyd, a gwelodd mai llythrennau cyntaf enw hwnnw oedd yr "M.L." Ni wyddai am y traethawd cyn hynny.