union lle dywedasai. Agorodd yntau'r llyfr, a chael hyd i gofnod a gopïasai o lawysgrif yn Llundain yn agos i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, er nad aethai drwy'r copïau byth er hynny. Y prynhawn hwnnw cefais hyd i hanner dwsin o lyfrau, o ganol miloedd lawer, heb fethu un waith ohono ef yn ei gyfarwyddyd. Mwy na hynny, yr oedd y wybodaeth a fynnwn yn y llyfrau a enwodd bob cynnig. Hyd yr wyf yn cofio, ni chlywais mono'n enwi tudalen mewn llyfr lle byddai rywbeth a geisid, ond dywedai mai yn agos i'r dechrau neu'r canol neu'r diwedd, ar y tu chwith neu'r de, yn agos i'r brig neu'r gwaelod. Ac fe ddoid o hyd i'r peth a geisid yn rhyfeddol bob amser. Yr oedd ganddo lygad barcud at brint neu lawysgrifen, ac am law, ni welais erioed mono'n methu.
Ni wn a adawodd ar gof a chadw rai o'r hanesion a glywais ganddo o dro i dro am y pethau rhyfedd a ddigwyddodd iddo wrth chwilio am lyfrau. Gallwn adrodd rhai ohonynt, ond y lwc fyddai ei fod ef ei hun wedi eu sgrifennu. Yr oedd ganddo ryw ddawn annaearol bron i wybod ym mha le i chwilio am beth, a chanlynai ar drywydd gyda sicrwydd a synnai ddyn. Enghraifft