"CANYS rhoed i ddynion farw." Fe ddaw plant dynion i wybod hynny'n gynnar ar eu hoes, i'w ddeall cyn bo hir, ac i ddygymod ag ef i ryw fesur, efallai, cyn y diwedd.
Eto, y mae rhai dynion y byddwn rywfodd yn methu â meddwl amdanynt nac yn heneiddio nac yn marw. Un o'r rhai hynny oedd Dafydd Wiliam, fel y carem ei alw, un o feibion breiniol cadernid, mwynder a goleuni. Ac eto, pan glybuom ei farw, oni theimlem nad angau ei hun sy'n greulon? Onid ef a roddes derfyn tawel ar ddioddef oedd yn ymddangos i ni ers misoedd naill ai'n greulondeb hagr ai ynteu'n chwarae hagrach fyth Yr wyf y funud hon fel pe gwelwn ei wên a phe clywn ei lais yntau, yn chwerthin cerydd arnaf am "ddywedyd pethau". . . A! fe fyddai'n fwy na da wybod ei fod ef, o hyd, ac nad darn ar glawr yr wyddbwyll mono mwy!
Hyd yn oed cyn dyfod i mi'r fraint o gyfarfod ag ef, buaswn gydnabyddus â nifer o gymdeithion ei ieuenctid, a llawer a glywswn amdano, am ei angerdd mawr a'i ddiniweidrwydd llwyr. Ond daeth ef a minnau'n gymdogion yn Aberystwyth,