ac yn gyfeillion. Llawer tro yr aeth oriau dros ein pennau megis heb yn wybod i ni, a minnau'n gwrando ar ei wybodaeth a'i brofiad a'i ddoethineb, ei ddysg helaeth a manwl, ei reddf at ddeall pethau anodd, ei ddawn at ddewis gair, ac yn bennaf dim, praffter ardderchog ei feddwl. Beth nas rhoddwn am gael unwaith eto weled y meddwl hwnnw'n gweithio? Ei weled, meddaf.
Dyma hi'n hwyr o haf—Mehefin cynnar. Wrthi'n cyfieithu pennod o'r Epistol at y Galatiaid y bu ef a minnau. Y mae hi weithian yn trymhau, a Phen Dinas draw o'n blaenau fel pe bai eisoes yn cysgu yn y goleuni ambr. Y mae'r ffenestr yn agored. Sŵn gwenyn—pa sŵn mor garedig?—yn y coed oddi allan. Aroglau blodau weithiau'n tonni i mewn gydag awel fach sy fel pe bai wedi colli ei ffordd yn yr awyr drom. Perffaith dawelwch. Cwbl brydferthwch. Sut y gallai fod unpeth drwg mewn bod: Nac unpeth brwnt? Syniem, mewn distawrwydd, ac yr oedd ef yn anadlu'n hir ac yn araf. Rhywbeth y buasem eisoes yn sôn amdano eto yn aros y tu cefn i'n meddyliau, rhywbeth a llawer enw arno, rhywbeth du, aruthr, nad oedd amgyffred arno er hynny. Ac eto—Natur!