a rhwbio'i phen yn erbyn fy nghoes a mewian ddwywaith neu dair yn gyfeillgar. Esgusodwch fi am funud," meddai gŵr y tŷ, "rhaid i mi sgrifennu llythyr neu ddau. Mae rhyw fachgen bach o'r ardal yma yn Llundain, a'i fam druan yn o wael, ac y mae tipyn o drwbwl ynghylch ewyllys rhyw hen greadur arall a fu farw dro yn ôl."
Aeth ati i sgrifennu. Daeth robin goch yn y man ar astell y ffenestr, camodd ei ben ac edrych odd i mewn. Gwelodd yntau ddyn dieithr, ac aeth yn ei ôl i chwilio am bryfed llai.
"Mygwch tra bydda i wrthi," meddai gŵr y tŷ. "Dyma'r gymysgedd. Awn allan am dro wedyn."
Sail y gymysgedd oedd dail tybaco, a'r chwaneg iadau oedd dail rhosyn coch wedi eu cynhaeafa. Gorffennwyd y llythyrau, ac aethom allan. Tra buasem i mewn, disgynasai cawod drom o law taranau, nes troi llwch y ffordd yn llaid gwlyb. Fel y cerddem ymlaen, safodd Alafon yn sydyn gan edrych ar lawr. "Mi ddaw rhywbeth ar ei draws o," meddai; plygodd, cododd rywbeth a thaflodd ef dros y gwrych i'r cae. Wrth yr ôl fel llinyn oedd ar draws darn o'r ffordd, dyellais mai pryf genwair oedd y peth a welsai.