"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" meddai fy nghyfaill, a safem yn fud i wylio a gwrando. Hoffwn gofio rhai o'r ychydig bethau a ddywedodd, ond ni ddaw ond un yn ôl fel y llefarwyd—"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" Ond daw tôn y llais mwyn, a'r goleuni tawel oedd yn y llygaid ac ar yr wyneb yn ôl ar draws y blynyddoedd cymysg, y goleuni "na bu erioed ar dir na môr," ond a welwn ni, bechaduriaid, weithiau, drwy lygaid rhai o freiniol feibion Duw.
Aethom i'r tŷ ac eistedd yn hir i wrando ar y sŵn. Pan dawelodd yr ystorm y noswaith honno, dechreuodd fy nghyfaill sôn am gasgliad bychan o'i gerddi yr oedd arno flys ei gyhoeddi. Gwyddwn am lawer o'r darnau eisoes. A chyn i ni fynd i gysgu, rywbryd yn oriau mân y bore, clywais gyfrinach a wnaeth i mi feddwl fy mod yn deall pam yr aethai'r wyneb unig hwnnw ar lethr y mynydd megis yn bersonoliaeth i Alafon. Darllenodd i mi ddwy gerdd nas clywswn o'r blaen, ac nad oedd yntau am eu dodi yn y llyfr. Yn brin a syml iawn, dywedodd yr hanes. Crefais arno eu cyhoeddi, ac fe wnaeth—"Hen fynwent bro hud" a "Dros y Ffin" (gweler y Cathlau, td. 62/64). Mi wn na byddai ef ddig