Rhyw graith ar y mynydd ydoedd, ond po fwyaf y syllem arno, tebycaf yn y byd ydoedd i wyneb merch, a'r argraff arno yn rhyfeddol bur ac unig ac ardderchog. Bûm yn edrych, yng nghwmpeini cerfiedyddion medrus, ar waith rhai o hen feistri Groegaidd a Rhufeinig y cŷn a'r morthwyl, ac yn gwrando'n ddyfal ar eu hesboniadau dysgedig ar gamp y gwaith. Ychydig iawn a lefarodd f'arweinydd y tro hwn. Craith ar fynydd oedd o'n blaenau, un o ddamweiniau Natur. Eto, gwelais fwy nag y medrodd y lleill ei ddangos i mi, canys safwn yn ymyl bardd a chelfydd, un na fedrodd, efallai, er cymaint o bethau tlysion a ddywedodd erioed, ddim llefaru traean yr hyn a ganfu, a deimlodd ac a ddeallodd, ond a fedrodd beri i eraill weled a theimlo a deall rhywfaint ohono hefyd.
Disgynasom i lawr i'r pentref yn araf, heb siarad rhyw lawer. Fel yr oeddym yn cyrraedd y tŷ, yr oedd y taranau yn dechrau rholio yn y pellter, a chymylau dugoch yn yr awyr, yn corri mynyddoedd Eryri. Ymsaethai'r glaw i lawr fel picellau. arian, gan chwilfriwio'n fil o ddagrau gloywon yn erbyn pren, maen a daear. Ni cheid egwyl rhwng taran a tharan, gan ateb y creigiau.