Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyssylltiad a'r Eglwys Sefydledig, 50: ac mewn FIUM; ac oddeutu yr un amser efallai, y cyfodwyd yr cyssylltiad â'r amrywiol gynnulleidfaoedd Ymneill-hen amddiffynfa fawr a chref, a orweddai ar "Fynduol, 488, dan addysgiad 67 o Athrawon, a 22 o Athrawesau. Poblogaeth y Plwyf tua'r adeg hono, oedd o ddeutu 1300; ond, y mae yn llawer mwy erbyn hyn.

ABERBAIDON, treflan yn mhlwyf Llanelli, Cantref CRUG HYWEL, Swydd FRYCHEINIOG, DEHEUBARTH CYMRU; 34 mill. i'r gor. wrth og. o ABERGAFENNI.

Mae y lle hwn wedi cael ei enw oddiar ei fod yn gorwedd ar ymuniad afonig o'r enw y Baidon, neu y Baiden â'r Wŷsg. Rhenir y dreflan gan yr afon Clydach, yr hon sydd yn llifeiriaw ar hyd nant ddofn, hyd ei huniad â'r Wŷsg; ac yn ei gyrfa, yn ffurfio amryw reieidr heirdd, yr hynottaf o ba rai a elwir "Pwll y Cŵn." Y mae dyfrffos (canal), yn cael ei gludo dros yr afon yma, ac y mae yn 84 troedfedd uchlaw gwely yr afon. Y rhan fwyaf o'r trigolion ydynt yn cael eu bywioliaeth mewn cyssylltiad a'r Gweithfeydd calch, glo, a haiarn; ydynt yn y gymmydogaeth. Gwelir olion hen amddiffynfa Brydeinig gref, a elwir "Y Gaer," ar lechwedd deheuol bryn, yn gyfagos i'r lle hwn, godreu yr hwn a olchir gan yr afon Clydach. Mae yn debyg i'r hen amddiffynfa hon gael ei ffurfio gan ein hynafiaid dewrion, tua'r adeg yr oedd y Rhufeiniaid yn ymwthio i'r broydd hyn; ac, efallai cyn i'r dynion hyny ffurfio eu gorsaf ysplenydd yn Risca.

ABERCONWY; neu, fel ei gelwir yn fwyaf cyffredin, CONWY, sydd borthladd, bwrdeisdref, tref farchnad, a phlwyf, yn Nghantref ARLLECHWEDD ISAF, Swydd GAERYNARFON, GOGLEDD CYMRU: 24 'mill. i'r dwyr. og. ddwyrain, o Gaerynarfon; a 236 mill. i'r gog. orll. wrth orllewin, o Lundain; ar y brif ffordd o Gaerlleon i Gaergybi.

Mae y dref hon yn cael ei henw oddiwrth yr afon CONWY, yr hon sydd yn fordwyol hyd Drefriw, sef tua deng milldir o ffordd, i lestri yn cludo triugain tunnell o lwyth; ac ar ychydig iawn o draul, y gallesid ei gwneyd yn fordwyol hyd dref Llanrwst, yr hyn yn ddiau a fuasai o wasanaeth mawr i'r trigolion. Haera rhai Geir-darddwyr mai CYNWY, yr afon benaf, neu y brif wy, yw yr iawn enw; ac eraill a fynant mai CAINWY, neu, yr afon deg, hardd, ydyw ei arwyddocäad; ac yn wir, am a wn i, na byddai y naill enw mor ddynodawl a'r llall o'r afon hon; canys y mae hi yr afon benaf a gair o enau y Dyfrdwy i ben Tir Lleyn; canys nid afon ydyw Menai yn briodol; ond morgaine, neu gulfor: ac y mae teithwyr craffus yn addef, ei bod hi yn un o'r afonydd mwyaf cain, teg, neu hardd, o'i hŷd, yn Ewrob.

Y mae yn ymddangos bod Publius Ostorius, yr hwn a bennodwyd yn Rhaglaw ar Frydain tua chanol y ganrif gyntaf o'r cyfnod Cristionogol, a chyd a'r hwn y daeth y ddegfed Leng drosodd i'r Ynys hon, gan ei fod yn dra phenderfynol i ddarostwng yr holl Ynys dan arglwyddiaeth Rhufain, wedi ymwthio mor ddioed ag y gallai i diroedd y Gordofigwys a'r Cangwys; ac nid yw yn annhebyg mai efe a ffurfiodd yr orsaf Rufeinaidd, "Conofium," ar lan yr afon Conwy, yn y lle a adwaenir yn bresenol dan yr enw "Caer Hen," neu "Caer Rhun." Efallai, mai i wylio yr ysgogiad yma o eiddo y Rhaglaw Rhufeinig, y gwnaed yr hen amddiffynfa Brydeinaidd a elwir "PEN CAER ELEN," yr hon sydd yn mynyddoedd Eryri, yn union oddiar yr hen GONOFIUM ac oddeutu yr un amser efallai y cyfodwyd yr hen amddiffynfa fawr a chref a orweddai ar "Fynydd y Dref," oddiar y fan y mae tref bresenol Conwy yn gorwedd; ac a elwid "Caer Seon," neu "Gaer Llion." Yr oedd yr amddiffynfa hon mewn lle tra manteisiol i wylio gororau y wlad, a'i hamddiffyn rhag anrheithiad estroniaid. O'r fan yma gallesid gweled arwyddion o berygl, oddiar y mynydd o'r tu ol i Gaergybi, neu oddiar yr Amddiffynfa gadarn a elwid "Bwrdd Arthur," neu " Dinsylwy," yn Mon, ac heblaw hyny yr ydoedd yn cael ei hamgylchu gan dair dinas arall, sef "Dinas Tudno," "Dinas y Penmaen Mawr," a "Phen Caer Elen," neu Caer Belin," uchlaw Caer Rhun.[1] Y mae yn amheus pa un ai Caer Seon, ynte Caer Lleon, ydoedd hen enw y Gaer ar Fynydd y Dref. Castell Caer Llion," ei gelwir gan Pennant: ac os dyna yr iawn enw, dyna dair Caer Lleon oedd yn yr hen amser; sef Caer Lleon ar Wysg, Caer Lleon ar Ddyfrdwy, a Chaer-Lleon ar Gonwy. Mae amryw Henafiaethwyr wedi bod yn dadleu, mai "Caer y Lleng" oedd yr enw Caer Lleon ar y dechreu; am fod rhyw un o'r Llengau Rhufeinaidd yn gwersyllu yn y fan :Ond, onid "Llion Hen" y galwai yr hen Gymry y Dylif, neu Dduw y Dylif?[2] A chan fod pob un o'r lleoedd crybwylledig, wedi eu hadeiladu ar lanau afonydd, pa annhebygrwydd sydd, nad Caer Llion ydoedd yr enw ar y cyntaf. Y mae yr Athraw, W. O. Pughe, yn dweyd fod y gair Llion yn arwyddocau cynnulliad o lifau, a bod yr ymadrodd "Llyn Llion," yn arwyddoccau Llyn yr afonydd, neu gyd gynnulliad anhysbyddadwy o ddyfroedd, yr hwn yn ol y dŷb boblogaidd, oedd ar y ddaiar, ac yn darddell y mor, a'r afonydd, a'r ffynhonau. Torriad Llyn Llion," oedd gyfeiriad traddodiadol gan y beirdd at ryw drychineb trwy ddylif.[3]

Dywedir fod Llyn bychan yn agos i Gas Gwent, a elwir Llyn Llifon, yr hwn sydd yn treio ac yn llenwi yn wrthwyneb i'r mor-lifau. Eto "Caer Ston" y gelwir y lle gan yr Ysgrifenwyr henaf y cair crybwylliad o enw y lle yn eu hysgrifeniadau. Y mae Iorwerth Beli, yn ei Awdl Foliant i Esgob Bangor, yn dweyd fel y canlyn:

Pan aeth Maelgwn Hir o dir mab Don duedd
O wledd Gwalch Gorsedd i Gaer Seon;
A dwyn gyd ag ef gofion dan orchest
Oedd o gerdd arwest ar gerddorion,
A pheri iddynt ffyrfeiddion lawer
I bawb o'r nifer nofio 'r afon;
Pan ddaethant i dir, terfyn môr ar drai,
Dimai ni's talai'r telynorion:-
Tyst yw Duw ar hyn, tystion a'i gwybydd
Herwydd hardd gynydd gyneddf doethion
Cystal y prydai'r Pryddion a chynt
Er a nofiesynt, helynt haelion."

Yr oedd y Bardd uchod, Iorwerth ab Beli yn ei flodau, yn nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg; ac felly gwelwn fod y lle yn cael ei alw Caer Seion, neu Seon, tua phum can mlynedd yn ol. Y mae hefyd hen bryddest a briodolir i Taliesin Ben beirdd, yn cynwys "Ymddiddan rhwng Ugnach ab Mydno o Gaer Seon, a Thaliesin, o Gaer Deganwy," yn yr hon y cawn y cyffelyb enw yn cael ei roddi ar y lle, er's mwy na deuddeg can mlynedd yn ôl.

Bernir fod Maelgwyn Gwynedd wedi adeiladu

  1. Gwel CAERHUN.
  2. Davies's Antient Mythology, p. 417.
  3. Dr. W. O. Pughe in loc.