Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amddiffynfa fechan yn ochr Eryri i'r afon Conwy, tu a'r chweched ganrif; yr hon a clwid Caer Cyffin; ond, nid oes genym ddim o hanes y llannerch ar gael, o'r oesoedd boreuol hyny; ond toir y gymmydogaeth gan dywyllwch dudew, hyd oddeutu y flwyddyn 1185, pan y cyfarfyddwn ni â Llewelyn ab Iorwerth, tywysog Cymru, yn adeiladu Monachlog ysplenydd ar enau yr afon hon, at wasanaeth y brodyr a elwid y Bernardiaid, neu y Brodyr Gwynion; a thrwy ei freinlen iddi, efe a'i gwaddolodd â llawer o diroedd yn Mon, Arfon, a Dinbych; ac heblaw hyny, a ganiattaodd iddynt amryw ragorfreintiau gwerthfawr; gan eu rhyddhau yn barhaus oddiwrth amryw doliau dyledus oddiwrth y deiliaid i'r tywysog, megys cadw gwfr, meirch, cŵn, neu hebogiaid at ei wasanaeth; nen ei roesawi ef, neu unrhyw Leygwr arall ar gyfrif defod. Caniatteid iddynt hefyd ddewis eu Habbadau eu hunain, heb unrhyw ymyriad o'r eiddo y tywysog, nac unrhyw wr leyg arall. Yr oedd pob llong-ddrylliadau a gymerent le ar eu tiroedd hwy, i fod yn eiddo iddynt; ond, os y byddai i rai o'n llongau hwy gael eu gyru yn ddrylliau ar diroedd y tywysog, gallent hawlio eu hadferiad. Yr oeddynt hwy a'u gwasanaethyddion, a pha beth bynag a brynid, neu a werthid ganddynt, i fod yn rhydd oddiwrth bob tollau; ac yr oeddynt hwy, ar iddynt, i gael eu trosglwyddo yn rhad, dros afonydd Conwy, Menai, Abermaw, ac Aberdyfi. Nid oeddynt i gael eu dwyn i brawf yn llysoedd y tywysog am unrhyw drosedd; ond i'w profi yn ol eu rheolau eu hunain yn unig. Nid oeddynt i gael eu blino am dderbyn neb un i'r Fynachlog, nac am roddi nawdd ac achles iddo yn eu sefydliad; ac os byddai i unrhyw Fynach fenthyca arian heb gydsyniad yr Abbad, ni byddai y Fynachlog yn gyfrifol am danynt.

Y breiniau uchod ac amryw eraill, cyffelyb o ran eu natur, a gadarnhawyd i'r Fynachlog hon, mewn Breinlen, a amserwyd yn Aberconwy, Ionawr, 1198, ac a law-nodwyd ar ran y tywysog gan Iorwerth Gam; Gwŷn ab Ednewain y Don, ei Gaplan; a Madoc ab Cador.

Rhaid fod gan y grefydd hon gryn ddylanwad ar bendefigion a thywysogion Cymru, pan y caniattient y fath ragorfreintiau i'r crefydd-dai hyn yn y wlad: a gallwn gasglu fod crefydd-dy a fwynhai y fath fanteision a chyfoeth, yn attynu iddo ei hun amryw o wyr enwog am eu dysgeidiaeth; deallwn hefyd y perthynai i'r Fynachlog hon, Lyfrgell dra gwerthfawr; ac yr oedd pob peth pwysig a gymerai le yn Nghymru wedi amser Howel Dda, yn cael ei gofrestru, a'i roddi i'w gadw yn Mynachlogydd Aber Conwy yn Ngwynedd, ac Ystrad Fflur yn y Debeubarth; a phob trydedd flwyddyn, cydmerid cof-lyfrau y ddwy Fynachlog yn ofalus, gan y Beirdd perthynoli'r ddau grefydd-dy, neu, o leiaf i'r ddwy dalaith, pan elent ar eu cylchoedd clera; a'r arfer hon a daliwyd i fynu hyd oddeutu y flwyddyn 1270, ychydig cyn marw Llewelyn ab Gruffydd, tywysog olaf y Cymry, yr hwn a laddwyd yn Muallt.

Anrhydeddwyd y Fynachlog hon trwy ei gwneyd yn gladdfa amryw o urddasolion Cymru; megys Gruffydd ab Cynan ab Owain Gwynedd, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1200, ac a gladdwyd yma mewn penwisg mynach, yr hwn ddull o gladdu a drosglwyddasid yn ddiweddar o Loegr, ag ydoedd mewn cryn arferiad yn mysg y graddau uchaf, y rhai oeddynt yn ddigon ofergoelus i gredu y buasai y cwccwll mynachaidd yn drwydded effeithiol iddynt i gyrhaedd a mwynhau dedwyddwch mewn byb arall. Yn wir,mae yn ymddangos bod defodau coel grefyddol eglwys Rhufain yn enill tir yn brysur yn Nghymru tua diwedd y ddeuddegfed ganrif, gan lygru yr hen Eglwys Cymreig yn fawr. Yn y flwyddyn 1230 bu farw Llewelyn ab Maelgwyn ab Owain Gwynedd, ac efe a gladdwyd yn Mynnchlog Aber Conwy. Dafydd hefyd, mab i Lewelyn Fawr, a fu farw yn ei lŷs, yn Aber, ac a gladdwyd yo y Fynachlog hon, yn y flwyddyn 1246. Yn agos ir un adeg, y bu farw Howel, fab Gruffydd ab Cynan ab Owain Gwynedd; a chladdwyd yntau hefyd yma. Gruffydd, mab i'r Tywysog Llewelyn ab Iorwerth, o'i wraig gyntaf, Tangwystl, a roddasid i fynu yn garcharor i Frenin Lloegr, gan ei hanner brawd, Dafydd ab Llewelyn ab Iorwerth, o Joanna, ferch y Brenin John, o Loegr; hwn, wrth geisio dianc o'r Twr Gwen yn Llundain, a gwympodd, ac a dorodd ei wddf, fel y bu efe farw o'r codwm; ond, trwy eiriolaeth Abbadau Ystrad-fflur ac Aberconwy, llwyddwyd i gael caniattad Brenin Lloegr, i ddwyn ei gorph i Wynedd, i'w gladdu yn meddrod ei dadau, yn y Fynachlog hon, yr hyn a gymerth le yn y flwyddyn 1248. Tuag wyth mlynedd cyn hyny y buasai farw ei dad, Llewelyn Fawr; ac efe a gladdesid yma mewn maen-arch, yr hon a welir eto yn hen eglwys Llanrwst.

Tu a'r flwyddyn 1282, pan oedd Archesgob Caergaint, fel genau Eglwys Rhufain, wedi cyhoeddi Llewelyn a'i gefnogwyr yn ysgymunedig, arweiniodd y Brenin Edward y Cyntaf, fyddin grêf i Wynedd, ac wedi anfon rhan o honi ar hyd y môr i gymeryd meddiant o Ynys Fon cyn y cynhauaf, er mwyn attal defnydd ymborth oddiwrth Lewelyn a'i wŷr, y rhai tra y gwersyllent yn Eryri, aymddibynent ar gynnyrch yr Ynys hono am eu bara, efe a gymerth y rhan arall o'i fyddin, ar bont o fadau i Aberconwy, lle yr ymwersyllodd, er mwyn cael y fantais o letty cysurus iddo ei hun a'i brif swyddogion efallai, yn y Fynachlog. Pa fodd y trodd y cad-gyrchiad yma allan, a hysbysir yn hanes ABER. Yn agos i ddiwedd y flwyddyn hon y lladdwyd Llewelyn ab Gruffydd yn Muallt; a dygwyd ei ben i'r Brenin, yr hwn oedd eto yn aros yn Monachlog Conwy, tra yr oedd ei feirch-filwyr yn gwersyllu ar y gwastadedd, gerllaw y Fynachlog, a'i draed-filwyr wedi eu trefnu yu fanteisiol ar lethrau y bryniau, yn nghysgod y coed. Y brenin a ymorfoleddai yn fawr yn nghwymp Llewelyn; ac efe a orchymynodd anfon ei ben i Lundain, lle ei derbynid gyda gorfoledd mawr, a'r dinasyddion a'i dygent ar flaen picell mewn gorymdaith trwy Cheapside, wedi ei addurno â choron o arian: yna fe'i dodid yn y pilwri, er porthi ysbryd ymddial y lluaws anwaraidd; ac yn ddiweddaf oll, fe'i sicrhawyd ar flaen pawl, ar fan uchaf y Twr Gwyn. Dyna a fu diwedd y Tywysog urddasol hwn, yr hwn a deilyngai ei gystadlu ag enwogion penaf Groeg a Rhufain, am fawr-frydigrwydd meddwl yn cyfarfod peryglon, a doethineb a dewrder i fyned trwyddynt. Efe oedd yr unig Dywysog yn ei oes, a deyrnasai ar genedl rŷdd; yr unig faner ar wyneb y ddaiar a arddelwai ryddid y bobl, ac a ddaliai allan yr amnaid lleiaf o galondid i genedloedd gorthrymedig Ewrob, i obeithio am waredigaeth oddi tan draed haiarnaidd y bendefigaeth;-sef y Ddraig Goch, yn mynyddoedd Eryri. Achos rhyddid ac annibyniaeth oedd achos y Cymry; ac am hyny, yr oedd yn achos