Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynoliaeth. Dros hyn yr ymladdasant mor wrol, dan amgylchiadau mor anfanteisiol, dros gynifer o ganrifoedd; a phan gwympasant, ni ddisgynasant i gyflwr o gaethwasiaeth, ond yn hytrach o ymddibyniad, a hwnw yn ymddangos yn fwy tebyg i fod yn effaith uniad na gorchfygiad: ac yn mhen tua dau can mlynedd wedi coroni pen Llewelyn mewn gwawd yn Llundain, y gwisgid coron y Deyrnas Gyfunol mewn rhwysgfawredd gan un o'i olynwyr a'i deyrnach, yn mherson Harri y Seithfed.

Ni chyfodwyd yr un golofn i'w goffadwriaeth; ef allai na fuasai y Brenin Edward yn caniattau hyny yn yr oes hono; ond, ei fod ef yn dymuno, ac yn amcanu claddu yn adfeilion rhyddid, bob arwyddion a fuasent yn tueddu i gadw i fynu goffadwriaeth o enwogrwydd dihafal Llewelyn. Ond, ni's gallasai diolchgarwch dalu teyrnged fwy gwerthfawr na dagrau cenedl yn eneinio bedd ei phenteyrn cwympedig. A chan i mi esgeuluso gwneyd hyny dan y penawd ABER, caniattaer i mi yma roddi ger bron ein cydgenedl, y llinellau teimladwy a ganlyn o'i Farwnad, gan Gruffydd ab yr Ynad Coch.

Llawer deigr hylithyr yn hwyliaw—ar rudd,
Llawer ystlys rhudd, a rhwyg arnaw;
Llawer gwaed am draed gwedi ymdreiddiaw,
Llawer gweddw, a gwaedd y am danaw,
Llawer meddwl trwm yn tomrwyaw,
Llawer mab heb dad gwedi ei adaw,
Llawer hendref fraith, wedi llwybr goddaith,
A llawer diffaith drwy aurhaith draw.
Llawer llef druan, fal ban fu'r Gamlan,
Llawer deigr dros ran wedi'r greiniaw,
O leas gwanas gwanar eurllaw,
O laith Llewelyn, cof dyn ni'm daw.
Oerfelawg calon, dan fron o fraw
Rewydd fal crinwydd y sy'n crinaw.

Pa'm na welwch chwi hynt y gwynt a'r gwlaw?
Pa'm na welwch chwi'r derw yn ymdaraw?
Pa'm na welwch chwi'r môr yn merwinaw'r tir?
Pa'm na welwch chwi'r gwir yn ymgyweiriaw?
Pa'm na welwch chwi'r haul yn hwylaw'r awyr?
Pa'm na welwch chwi'r sŷr wedi syrthiaw?
Pa'm na chredwch chwi Dduw ddyniadon ynfyd?
Pa'm na welwch chwi'r byd wedi bydiaw?
Och! hyd attad Dduw na ddaw mor dros dir,
Pa beth yn gedir i ohiriaw?
Nid oes le y cyrcher rhag carchar braw,
Nid oes le y triger, och o'r trigaw!
Nid oes na chyngor-na chlo nag egor
Unffordd i esgor brwyngyngor braw!
Pob teulu teilwng oedd iddaw,
Pob cedwyr cedwynt y danaw,
Pob dengyn a dyngynt o'i law,
Pob gwledig, pob gwlad oedd iddaw,
Pob cantref pob tref ynt yn treiddiaw,
Pob tylwyth, pob llwyth y sy'n llithraw,
Pob gwan, pob cadarn cadwed o'i law,
Pob mab yn ei gryd y sy'n udaw,
Bychan lles oedd ym am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf heb pen arnaw.
Pen, pan lâs, ni bu gas Gymraw;
Pen, pan lâs, oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhagllaw,
Pen dragon, pen draig oedd arnaw,
Pen llu, deg dygn o fraw—i'r byd
Bod pawl haiarn drwyddaw;
Pen arglwydd, poen dygn gwŷdd amdaw,
Pen f'enaid, heb fanag arnaw,
Pen a fu berchen a'r barch naw can-wlad
A naw can-wledd iddaw.
Penteyrn, heiyrn heid o'i law,
Penteyrnwalch balch bwlch ei ddeifniaw,
Penteyrnaidd flaidd flaengar ganthaw,
Pen teyrnef nef ei nawdd arnaw,
Gwyndeyrn ortheyrn wrthaw
Gwendorf gorff gorfynt hynt hyd Lydaw,
Gwir freiniol Frenin Aberffraw
Gwenwlad nef, boed addef iddaw.

Wedi i'r Brenin Edward ddarostwng dewrion Eryri, y rhai yn awr ni's meddent flaenor teilwng i'w tywys i'r gâd, efe a ymroddes i sicrhau ei berchenogaeth o Wynedd, a thynhau ei gadwynau am y brodorion; ac i'r perwyl hyny, efe a ranodd Wynedd yn Siroedd, ac a drefnodd frawdlysoedd ynddynt yn ol y dull Seis'nig, gan osod y Swyddogion priodol trwy y gwledydd, er gorfodi ufudd-dod oddiwrth ei ddeiliaid anfoddawg.

Ac, er gallu cwblhau ei amcanion yn llwyrach, cymerodd y Brenin ei gartref dros dymhor yn Nghastell Rhuddlan, a thra fu efe yno, parodd gyhoeddi corph o gyfreithiau a adweinir dan yr enw "Deddfau Rhuddlan;" ac anfonodd "Gyhoeddiad" allan at holl drigolion Cymru, o'r hen gastell hwnw, yn yr hwn yr ymrwymai i'w cymeryd dan ei amddiffyniad, gan eu sicrhau y caent hwy fwynhau eu hen ettifeddiaethau a'u breiniau megys cynt; gan gadw iddo ei hunan yn unig, yr unrhyw ardrethion, tollau, a gwasanaeth, ag a hawliai tywysog Cymru. Ond, prin y gellir meddwl iddo fod cystal a'i air; canys cyn pen nemmawr o amser, nyni a ganfyddwn ei fod wedi rhoddi rhanau helaeth o'r tiroedd goreu yn y Dywysogaeth, i'w ganlynwyr; arglwyddiaeth Ruthin a roddes efe i Reginald de Grey, ac arglwyddiaeth Dinbach, i Iarll Lincoln; a'i holl brif Swyddogion eraill a wobrwywyd yn haelionus, âg ettifeddiaethau gwerthfawr, a ddygasai y Brenin, dan ryw rith-esgus, ar draws ei air a'i lŵ, oddiar y pendefigion Cymreig.

Ac er cadarnhau ei awdurdod yn Ngwynedd, y Brenin a adeiladodd dair o drefi milwraidd yn nghyffiniau Eryri; sef Caerynarfon, Beaumaris, a Chonwy, yn y rhai y gellid cadw gwarchod luoedd milwraidd cryfion, y rhai a allent ddiffodd tân gwrthryfel yn y fan, os gwelid argoelion ei fod yn dechreu ennyn, yn Mon neu Arfon. A chan fod Brenin wedi dewis Aberconwy yn orsaf un o'r cyfryw ddinasoedd milwraidd, efe a symmudodd y Fynachlog, trwy gydsynied y Myneich, medd efe, ac awdurdodiad y Pab, i Dre Faenan, yn agos i Lanrwst, gan roddi Tre Faenan at ei chynnaliaeth yn ychwanegol at ei meddiannau a'i rhagorfreintiau blaenorol. Mae yn ymddangos nad oes dim gweddillion o adeilad hen Fonachlog Aber Conwy yn aros yn weledig heddyw. Y mae yn yr ochr ogleddol i'r fynwent, fedd-faen, a'r groes arno; ond heb ddim llythyrenau; ac fe gaed un cyffelyb, a chroes ddiaddurn wedi ei thorri ynddo, wrth wneyd rhyw gyfnewidiadau, yn muarth Gwesty y Castell, yn y fl. 1832; ac ar yr un pryd, deuwyd ar draws sylfeini amryw ranau o'r hen Fynachlog, fel y tybir; trwy yr hyn y cawn ni ryw synied am y llannerch y gorweddai yr hen grefydd-dŷ arno, a'r lle y claddwyd cynifer o dywysogion Gwynedd.

Y mae Castell Conwy yn un o'r adfeilion mwyaf ysplenydd a fedd Ewrob efallai: a phrin y gellir canfod yr un dref filwraidd o'r canol oesoedd, a'i chaerau a'i thyrau mewn cyfanach a gwell cadwr-