Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth, na thref Conwy. Y mae nerth a mawredd i'w canfod yn Nghestyll Beaumaris, a Chaerynarfon; ond, ni ddaliant i'w cystadlu am deleidrwydd, Chastell Conwy. Y mae y tri chastell a grybwyllwyd, yn enwedig un Caerynarfon ac un Conwy, yn dwyn arnynt lawer o arweddau amddiffynfeydd Syria, a Phalestine; ac nid yw yn annhebyg fod HENRY DE ELLERTON, Archadeiladydd y Brenin Edward, wedi bod gyd a'i Dywysog yn y gwledydd hyny, pan fuasai efe yno yn y Croes—gadau; a i fod wedi cael llawer o gymhorth oddiwrth yr hyn a welsai ef yno, i gynllunio yr adeiladau ysplenydd hyn. Adeiladwyd y Castell hwn yn y flwyddyn 1284; ac ar gyfrif ei gryfder anianyddol a chelfyddydol, gallesid meddwl y buasai yn ddigon dyogel yn erbyn pob ymosodiad a allesid ei wneyd arno, dros ystod parhad y dull o ryfela oedd mewn arferiad pan ei hadeiladwyd; canys nid oeddynt y pryd hyny, wedi cael allan nerth aruthrol pylor, ac arfau tân. Ni allasid gorfodi gwarchodlu ffyddlawn a fuasent mewn meddiant o hono, i'w roddi i fynu, ond yn unig trwy warchaead digon manol a maith, fel y buasent yn cael eu newynu. Y mae ei furiau o ddeg i ddeuddeg troedfedd o drwch; ac yr oedd dyfrffos ddofn a llydan gynt, ar y tu gorllewinol, a gogledd—orllewinol iddo, tra yr ymgurai tonau y môr yn erbyn ei furiau ar yr ochrau dwyreiniol a deheuol. Mae y castell bron yn hirgrwn, ac wedi ei adeiladu ar graig, ar un gongl o'r llannerch dri—onglawg a gynnwysir o fewn caerau y dref. Y mae wyth o dyrau mawrion, deugain troedfedd o dryfesur, yn ymddyrchafu o'i ddeutu, pedwar ar bob ochr: ac yr oedd esgynfa droellog o fewn twr llai, a gynnwysid yn mhob un, a'r rhai yn y pedwar nesaf i'r afon, ydynt yn ymgyfodi amryw droedfeddi yn uwch na'r rhai trwchus, ac yn peri fod yr ymddangosiad yn hardd dros ben; ac o ben y tyrau hyn, ceir golygfa dra manteisiol ar y wlad o amgylch. Adeiladwyd y caerau a amgylchant y dref, ar yr un adeg a'r Castell; ac y mae un ar hugain o dyrau ar y caerau, heblaw tri phorth i'r dref, ar ben pob un o ba rai, yr oedd dau dŵr cryfach. Yn yr ongl isaf i'r caerau, yn gyfredol a'r afon, yr oedd saith o dyrau, a phorth, a elwir "Y Porth Isaf;" a rhwng hwnw a'r Castell, yr oedd trwyfa gul arall, a elwid "Y Porth Bychan;" ond heb dyrau arno. Oddiwrth gongl ogleddol y gaer, yr oedd tramwyfa gad—gysgodawl, yn ymestyn tua 70 llath hyd i'r afon, ac ar ei phen eithaf yr oedd tŵr mawr, yr hwn sydd wedi ei ddystrywio er's llawer dydd. Yr oedd hwn yn cyfatteb i dŵr arall islaw y castell. Gelwid y fynedfa gad—lenawl yna, "Porth yr Aden." Yr oedd dyfodfa arall i'r dref o'r wlad, bron ar gyfer y Porth Isaf, a hono a elwid "Y Porth Uchaf;" a pherthynai crogbont i hwn, i groesi dros y ddyfrffos. Y trydydd porth sydd ar yr ochr ddeheuol, ac a elwir "Porth y Felin." Yr oedd yr holl ranau i'r dref nad oedd yn ymylu ar y môr, yn cael eu hamddiffyn â dyfrffos ddofn a llydan.

Yn awr, awn i fewn i'r Castell, a cheisiwn roddi darluniad i'r darllenydd o'r adfeilion godidog hyn. Yr oedd y brif fynedfa iddo o'r dref, ar yr ochr orllewinol, ar grogbont, dros ddyfrffos ddofn: yna esgynid ar hyd ychydig risiau, i uchrodfa ehang, yr hon a ddiffynid gan bump o dyrau bychain, a magwyrydd o'r naill i'r llall. Oddiyma awn i fewn trwy borth a ddyogelid gan borth—gwlas, i'r cyntedd mwyaf. Ar yr ystlys ddeheuol i hwn, yr oedd y neuadd ardderchog, yr hon oedd yn 130 troedfedd o hyd, 32 troedfedd o led, a thua 30 troedfedd o uchder. Yn mhen dwyreiniol y neuadd hon yr oedd Capel, a ffenestr fawr a godidog iddo. Cynhelid y nen gan wyth o fwäau Gothaidd ardderchog; pedair o ba rai sydd yn aros eto.

Yr oedd i'r neuadd hon dri lle tân; un mawr, yn y naill ben iddi, a dau eraill, llai, un ar bob ystlys iddi; ac yr oedd iddi chwech o ffenestri tu a'r wlad, a thair o rai mwy, tu a'r cyntedd. Odditani yr oedd y cromgelloedd ehang, yn y rhai yr ystorid yr arlwyon rhyfel, at wasanaeth y gwarchodlu.

Yn y pen dwyreiniol i'r cyntedd yma, y mae y ddyfr—gronfa, yn 15 troedfedd o dryfesur, ac ugain o ddyfn; a dywedir fod y dwfr yn cael ei gludo iddi, mewn pibellau tan—ddaiarol, o ffynon uchlaw y Tŷ Gwŷn. Canfuwyd rhanau o'r pibellau, meddir, wrth aredig y maesydd yn y gymydogaeth hono; ac y mae traddodiad yn ein hysbysu, ddarfod i'r gelyn, ar un achlysur, trwy ddarganfod y pibellau hyn, ac attal y dwfr i'r castell, orfodi y gwarchodlu i'w roddi i fynu. Yr oedd y dwfr yn dyfod i fewn i'r gronfa hon trwy ddwy bibell, ar yr ochr ddeheuol; ac ar gyfer y rhai hyn yr ydoedd pibell arall i gymeryd y dwfr o'r gronfa i'r ddyfrflos, pan fyddai yn cyfodi yn rhy uchel yn y gronfa.

Mae y fynedfa i'r cyntedd nesaf i fewn, trwy fûr cadarn, deg troedfedd a haner o drwch, oddiallan i ba un yr ydoedd lluest Gwyliedydd, yr hwn trwy fein-dwll, a allai ganfod dynesiad pawb oddiwrth y prif borth. Ar y llaw ddeau i'r cyntedd hwn y mae un o'r teyrn—ystafelloedd, yn 29 tr. o hyd, wrth 22 tr. o led; ac y mae un o'r bwäau meini ysplenydd, a gynhalient y nen, yn aros yn gyfan eto: ond, y mae un arall, a wasanaethai i'r un perwyl, wedi ei lwyr ddinystrio er ys amser maith. Gollyngid y goleuni i'r ystafell freninol hon, trwy ffenestri o'r cyntedd; a rhwng yr ystafell hon a'r tŵr a elwid "Tŵr y Brenin," yr oedd ystafell wely y Brenin; a thramwyfa o honi i ystafell y frenines, ar yr ochr gyferbyniol; a gelwir y tŵr gogleddol, "Tŵr y Frenines;" ac yn yr ystafell, ar y llofft gyntaf o'r tŵr hwnw, yr oedd encilfa a gymerasid o'r mûr, yr hon yw yr unig le o ymddangosiad gwir addurniadol o fewn y castell.—Fe'i ffurfir gan saith o fwäau pigfain, a gwerddyrawg, yn ymgyfarfod yn y nen; a bwäau eraill oddi tanynt, yn nghyda seiliad cain o amgylch. Yr ystafell a'r encilfa yma, meddir, ydoedd Capel y Frenines, yn yr hwn y cyfleid bwrdd yr allor, ac y mae twll o bob tu, trwy y rhai y gellid cynal cymundeb a'r ystafelloedd oeddynt ar bob ystlys i'r Capel. Cadarnheir y dŷb, mai dyma ydoedd dyben y lle hwn, drwy y ffaith mai dyma yr unig ystafell yn yr un o'r tyrau, oddi ar y llawr isaf, sydd heb le tân ynddi.

Tryfesur y tyrau oddi fewn, sydd oddeutu 18 tr., a chynnwysent yn gyffredin ddwy lofft, oddiar eu gilydd, heblaw y lloriau isaf, y rhai a ddefnyddid yn gyffredin i gadw ystorfeydd. Yr oedd ystafell gref iawn oddi tan Dŵr y Brenin, i'r hon nid oedd namyn un fynedfa, a hono trwy frâd—ddor; ond, yr ail Dŵr ar yr ystlys ddeheuol, a elwir "Tŵr y Carcharorion," yr hwn sydd yn gydiedig a'r Neuadd; ac o'r hon y mae mynedfa trwyddo i ben y muriau.

Y mae rhodfa arall, ar yr ochr ddwyreiniol, yn cael ei diffynu gan dri o dyrau, a muriau, lle yr oedd ail ddyfodfa i'r Castell; yr hon oedd o'r afon, trwy droell esgynfa, cysgodol gan fûr, yn nghyda