Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thŵr crogedig bychan; ac yr ydoedd tŵr crwn arall ar ei phen eithaf, er attal dynesiad y gelyn ar drai; ond, y mae y rhanau hyn o'r hen adeilad, wedi llwyr ddiflanu erbyn hyn.

Y tŵr nesaf i "Dŵr y Brenin," a elwir "Tŵr Darn;" o herwydd fod darn anferth o honaw wedi cwympo; mewn canlyniad i gybydd—dra rhyw rai o'r trigolion, yn cloddio y graig ar yr hon ei seiliasid, er mwyn cael cerryg, tra na buasai raid iddynt fyned oddiar ychydig gannoedd o latheni, i'w cael o gloddfa ragorol.

Un o'r hen Feirdd Cymreig a ganai i'r Castell hwn yn y flwyddyn 1480; ac oddiwrth y llinellau canlynol yn y Cywydd, gwelwn na's gallai ein tadau edrych gyd ag unrhyw hoffder ar yr adeiladau aruthrawl hyn, na chofio am gwymp eu Llewelyn, heb fod eu holl natur yn ymgynhyrfu yn erbyn y goresgynydd.

P'le dan gel, bu 'r Fad felen
O Ros! Yn mha ffos ei phen?
Na fuasai 'n fyw i osod,
Ar Iorwerth, i'w nerth, ei nod,
A chadarn edrych arno,
Er rhoi gloes, drwy dwll rhyw glo;
Cyn iddo 'r Ci anaddwyn,
A'i fawr fost, yn dost ein dwyn,
Dan ei ormes, afles oedd,
Du i'w lid, mal diawl ydoedd;
Cyn yngod, cwyno angau,
Llewelyn, y mwyn-ddyn mau."

Tu a'r flwyddyn 1294, dechreuai hen wroniaid Gwynedd anesmwytho dan iau haiarnaidd yr estron, yr hwn a'u gorthrymai yn dost â'i drethi cynnyddol er cynnal ei gad—gyrchoedd; a chan gyhoeddi Madoc | ab Llewelyn yn Dywysog Cymru, hwy a ymosodasant ar Gaerynarfon, ac a laddasant luaws mawr o'r Saeson a gyrchasent yno i ffair. Hwy a gymerasant feddiant o'r Castell, ac wedi yspeilio y dref, hwy a'i rhoisant ar dân: ac mor beryglus y cyfrifai Edward y gwrthryfel yma, fel y prysurodd efe i Wynedd, gyda byddin gref oedd ganddo wedi ei pharottoi i fyned ar gad—gyrchiad i'r Cyfandir. Yn y cyfamser, Henri Lacey, Iarll Lincoln, ac Arglwydd Dinbach, a brysurasant gyd a'r flaen—fyddin hyd at Gastelliart yr Ail. Dinbach, er mwyn cadw yr amddiffynfa hono rhag cwympo i ddwylaw y Cymry; ond Madoc a'i wroniaid, ddaethant yn ddisymwth ar warthaf y fyddin freninol, dan lywyddiaeth brawd y Brenin; sef Edmwnt, Iarll Lancaster; ac a'i gorchfygasant. Yna y Brenin ei hunan a arweiniodd ei fyddin fawr i Wynedd; ac wedi croesi afon Conwy gyda rhan o'i fyddin, efe a'u cymerodd i'r castell cadarn yma. Y Brenin a gollodd y rhan fwyaf o'i glûd wrth groesi yr afon; ac yn y fan, erbyn iddo gael yn brin i | fewn i'w gastell, fel llwynog i'w ffau; gosodai Madoc a'i wŷr warchaead arno; a'r llifeiriant disymwth a gyfodasai yn yr afon, a'i gwnelai bron yn anmhossibl i'r ôl—fyddin, dan lywyddiaeth Iarll Warwick, i groesi yr afon, (er cynnorthwyo y Brenin, trwy guro y gwarchaewyr oddiwrth y Castell,) dros rai dyddiau. Yn y cyfamser, yr oedd hi yn galed iawn ar y Brenin a'i wŷr yn y castell, am ymborth; ond, er holl ymdrechion Madoc i gymhell lleiddiad ei dad, i'w gyfarfod mewn ymdrech dêg ar faes, gomeddai Edward syflyd oddiallan i furiau ei gastell. O'r diwedd llwyddodd Warwick i fudo ei fyddin dros yr afon; ac yna yr oedd Madoc a'i wŷr rhwng dau lû, pob un o ba rai a gynnwysai gynnifer ddwy waith o arfogion ag a feddai efe; gan hyny, nid oedd ganddo ddim i'w wneyd, ond encilio i fylchau yr Eryri, fel y gwnelsai ei dâd dewrwych lawer gwaith o'i flaen; a'r Brenin a'i wŷr wedi ail—feddiannu Mon ac Arfon, a llwyr ddarostwng y gwrthryfel, a gadwasant wyliau y Nadolig mewn rhwysg mawr yn y Castell hwn; a chyn ymadael o Gonwy y tro hwn gorchymynodd y Brenin adeiladu castell cryf y Beaumaris; er cadw glewion Mon yn fwy llwyr oddi tan ei balfau; a rhoddodd finteioedd lawer ar waith, i dorri y coed trwy Fon ac Arfon, fel na byddent yn lloches i'r brodorion i gynllwyn.

Yr amgylchiad nesaf mewn Hanesyddiaeth, y dylid ei grybwyll mewn cyssylltiad â Chonwy a fydd ymweliad y Brenin Rhisiart yr Ail a'r lle, a'i fradychiad i ddwylaw y Duc o Lancaster, a adwaenid hefyd wrth yr enw Henry Bolingbroke. Tra fu y Brenin Rhisiart ar gadgyrchiad yn yr Iwerddon, dychwelodd y Duc o'i alltudiaeth, a chynullodd ei gyfeillion yn nghyd, gan ffurfio byddin gref, i'r perwyl o ddwyn gorsedd a choron Prydain oddiarno. A'r Brenin pan glybu y newydd yma yn yr Iwerddon, a anfonodd Iarll Salisbury drosodd i Gonwy, fel y cyfodai efe fyddin o'r Cymry, yn barod i'w gynnorthwyo i ddarostwng gwrthryfel y Duc: ond efe ei hunan, gan wrando ar gynghorwyr ffeilsion, a esgeulusodd ei ddilyn yn brydlawn yn ol ei addewid; gan hyny, er i'r Iarll gasglu tua deugain mil o wyr dan arfau, i gefnogi y Brenin, mewn ychydig ddyddiau; wedi ymwersyllu o honynt ar faes yn agos i Gonwy amryw ddyddiau, a'r Brenin yn oedi dyfod yn ôl ei addewid; hwy a ofnasant ei fod wedi cael ei ladd, ac yr ymddygai Bolingbroke attynt hwythau fel teyrn-fradwyr, gan eu bod yn clywed ei fod ef yn awr wedi enill holl Loegr i'w bleidio; am hyny hwy a ymwasgarasant, bawb i'w fan. O'r diwedd, y Brenin wedi hir oedi, a hwyliodd drosodd i Aberdaugleddyf; ac oddiyno, wedi gadael ei fyddin, ac ymddyeithrio mewn gwisg mynach llwyd, efe a farchogodd i Gonwy, yn cael ei ddilyn yn unig gan y Duciaid o Exeter a Surrey, Iarll Caerloyw, Esgobion Lincoln, Ty Ddewi, a Charlisle, ac Owain Glyndwr, yr hwn oedd yn gyfaill mynwesol i Rhisiart yr Ail.

Pan ddeallodd Bolingbroke fod y Brenin yn Nghonwy, efe a anfonodd Iarll Northumberland, a nifer o wŷr arfog, i'w ddal ef trwy dwyll, neu drais : a'r hen bendefig dichellgar hwnw, wedi cuddio ei wŷr arfog mewn cornant yn nghymydogaeth Penmaen Rhos, yn agos i'r lle y saif pentref Colwyn yn bresenol, a aeth tua Chonwy dan rith cenad hedd dros y Duc at y Brenin; ac er tawelu meddwl y Brenin, mai hyny ydoedd ei unig neges, efe a gymerth ei lŵ, a'i law ar yr offeren. Y mae yn ymddangos fod ein cydwladwr, "Owain Glyndwr," yn ofni fod brad ar droed, ac iddo gynghori y Brenin gyda phob taerni i encilio i Ffrainc hyd oni chyfodai gwell gwawr ar ei achos: ond y Brenin, yn anffodus, a wrthodai y cyngor doeth yna; a chan ymddiried yn y bradwr, efe a gychwynodd gyd ag ef i gyfarfod y Duc o Lancaster yn nghastell y Fflint: ond ar y ffordd, y milwyr a gyfleasai Northumberland mewn cynllwynfa, a amgylchynasant y Brenin, a'r pendefigion oeddynt gyd ag ef, yn ddisymwth, ac a'u cymerasant yn garcharorion; a'r canlyniad fu i'r anffodus Rhisiart golli ei goron, a'i ben hefyd yn fuan wedi hyny; a'r Duc o Lancaster, dan yr enw