Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harri IV., a drawsfeddiannodd yr orsedd ; ac â hwn bu Owain Glyndwr, yn brwydro dros bedair blyneddedd ar ddeg ar ol hyn.

Yn fuan iawn wedi i ryfel "Owain Glyndwr" dorri allan, darfu i ddau o'i geraint, sef William ab Tudur, a'i frawd Rhys, a gyfenwid “"Rhŷs Ddu yr Arddreiniog," a hwy o brif bendefigion Ynys Fon, ac o hen gŷff tywysogion Gwynedd, a'u dewrder yn ddiarhebol, gymeryd meddiant o gastell Conwy, yn fuan ar ol iddynt roddi curfa dost i'r Brenin a chwe mil o'i filwyr dewisol ar y Rhos Fawr, yn Môn; a hwy a gadwasant feddiant o'r castell hwn dros amryw fisoedd, er fod mab henaf y Brenin, a Henry Percy yn gwarchae arno.

Bu llawer o ymrysonau gwaedlyd yn amgylchoedd y castell hwn, nid yn unig yn amser Owain Glyndwr; ond hefyd yn ystod yr ymryson maith a blin, a fu rhwng teuluoedd York a Lancaster, am goron Lloegr; canys yr oedd y Cymry yn ymbleidiol yn yr helynt yna. Er ennghraifft, fe'n hysbysir, fod cefnogwyr un blaid wedi meddiannu y castell, tra yr oedd teulu dylanwadol Gruffydd Gôch, ac amryw deuluoedd galluog eraill o'r gymydogaeth, dan arfau dros y blaid arall; a dygwyddodd fod Rhys, mab Gruffydd Goch, yn sefyll ar Dal y Sarn, ar gyfer y castell, yr ochr arall i'r afon, pan ei lladdwyd â saeth a ollyngasid oddiar fwa o'r castell, gan Lewelyn o Nannau ond, yn mhen ychydig nosweithiau ar ol hyny, Robyn ab Gruffydd Goch o'r Graianllyn, a'i frawd Hywel, yn nghyda nifer o ganlynwyr dewrion, a groesasant yr afon, er dial gwaed eu brawd Rhys; ac wedi ysgolodi muriau y castell, hwy a dorasant ben y cadben. "O'r tu uchaf i Gonwy," medd yr hanes, "y saethasai Llewelyn o Nannau y bicell hon, a llas Rhys dros Gonwy; a llyma un o'r ergydion pellaf y llas dyn erioed."[1] Yr oedd y Saethyddion Cymreig yn dra enwog er yn forau, fel y dengys y crybwyllion canlynol:—Giraldus wrth grybwyll am wŷr Gwent, hen diriogaeth yr enwog Garadawg, a ddywaid: "Y mae yn deilwng o sylw fod gwŷr Gwent yn fwy ymarferol â rhyfela, yn fwy enwog am eu dewrder, ac yn fwy medrus mewn saethyddiaeth, na thrigolion un parth arall o Gymru. Yr ennghreifftiau canlynol a brofant wirionedd yr haeriad hwn. Yn yr ymosodiad olaf ar gastell Abergafenni, yr hyn a gymerodd le yn ein dyddiau ni; fel yr oedd dau filwr yn myned dros bont at dŵr a adeiladasid ar grugyn o bridd, er cymeryd y Cymry o'r tu ol, eu saethyddion, y rhai a'u canfuant, a yrasant eu saethau drwy ddôr dderw, yr hon oedd yn bedair modfedd o drwch; ac er cof am y fath orchest, cedwir y saethau eto yn y ddôr, a'u blaenau heiyrn yn weledig o'r tu arall. Tystia Gwilym de Breos hefyd, ddarfod i un o'i farchogion ef, tra yn ymladd â'r Cymry, gael ei archolli â saeth, yr hon gan dreiddio drwy ei lurig, yr hwn oedd yn wisgedig a haiarn o bob tu, a aeth trwy ei forddwyd, i gefn y cyfrwy, a thrwy hwnw a archollodd ei farch yn farwol. Marchog arall, yr hwn oedd yr un ffunud yn ddiffynedig gan lurig ar ei forddwydydd, a drywanwyd gan saeth i'r cyfrwy; a chan droi o'i farch o amgylch, efe a dderbyniodd ergyd gyffelyb ar ei forddwyd arall, trwy yr hyn ei hoelid o bob tu, megys wrth ei gyfrwy![2]

Y mae Syr John Wynne, yn Hanes Teulu Gwydir, yn sylwi fod yr holl wlad oddiamgylch yn cael ei hanrheithio gan gefnogwyr y ddwy blaid grybwylledig, a bod yr Arglwydd Herbert, Iarll Penfro, yn enwedig, wedi peri galanastra mawr yn y cymydogaethau hyn. Yn y flwyddyn 1466, ei arglwyddiaeth a archodd dori pen Thomas ab Robyn, o Gochwillan, yn agos i'r castell hwn, am ei ymlyniad ffyddlawn wrth y Lancasteriaid, a dywedir i'w wraig, Gwenhwy far, dderbyn ei ben i'w harffedog, a'i ddwyn ymaith.

Yn y flwyddyn 1607 bu agos i'r dref hon gael ei gwneyd yn annghyfanedd gan y plâ a dorrodd allan ynddi; a chladdwyd lluaws mawr o'r trigolion dan yr heolydd, ac oddi allan i furiau y dref. Rai blyneddoedd yn ol, (tua 1795,) fel yr oeddid yn ail balmantu y rhan isaf o'r heol fawr, deuid ar draws esgyrn lluaws mawr o ddynion, yn gorwedd ochr yn ochr ar hyd y ffordd: dywedir fod llawer o'r esgyrn yn fawrion iawn, a dywedir fod clicciad gên ambell un o honynt yn rhychwant, (tua 9 modfedd) o hyd o'r naill eithaf i'r llall. Sylwir fod y pla wedi torri allan yma o fewn tair wythnos i adeg ei ymddangosiad yn Llundain: a rhaid priodoli ei ymweliad buan â'r lle hwn, i'r drafodaeth fawr a ffynai rhwng trigolion y dref â Lloegr yn yr oes hono.

Pan dorodd y rhyfel cartrefol allan, yn amser Siarl y Cyntaf, daeth Conwy yn orsaf ymdrechion gwaedlyd drachefn; ac un o enwogion penaf yr oes hono, ac a gyfranogodd yn helaeth o'i helyntion blinion, oedd frodor o'r dref hon, sef y Dr. John Williams, Archesgob Caerefrog, am yr hwn y dylem roddi hanes led fanol yn nglŷn a'r dref hon.

Ei dad oedd Mr. Edmund Williams, o Aberconwy, yr hwn oedd fab i William Williams, Ysw., o Gochwillan, o'i wraig Dorothy, ferch i Syr William Gruffydd o'r Penrhyn. Y dywededig Edmwnd Williams a briododd Mary, ferch i Owen Wynne ab John Owen, o'r Creuddyn, medd un hanes; o'r Eglwys Fâch, medd un arall. Dywaid Williams yn ei Hanes Aberconwy, y bu i Edmwnt Williams saith o blant, sef pum mab, a dwy ferch; ond yn Achlyfr Lewis Dwnn, ni enwir namyn pedwar, sef Robin, Siôn, Dorti, ac Elin. Yr ieuangaf o'i feibion oedd John, yr hwn a gyrhaeddodd y fath enwogrwydd. Efe a dderbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Ramadegol Ruthin, lle y gwelid argoelion y pryd hyny o'i fawredd dyfodol. A'i gâr, Dr. Fychan, yr hwn wedi hyny a fu yn esgob Llundain, wedi ei lwyr argyhoeddi o'i alluoedd ysplenydd, a ofalodd am gael ei symmud yn fuan i brif ysgol Caergrawnt, lle ei cyflwynodd i ofal neillduol Mr. Owen Gwynne o Goleg St. Ioan, yr hwn oedd, nid yn unig yn Gymro, ond yn gâr hefyd i'r Ysgolor ieuanc, ac yn meddu ar lawer iawn o gymhwysderau i fod yn Athraw iddo.

Yr oedd John Williams y pryd hwn yn un flwydd ar bymtheg oed, o brydweddiad goleu a thêg iawn, fel yr ymddangosai yn ieuangach nag ydoedd mewn gwirionedd; a'r olwg blentynaidd oedd arno, yn nghyd a'i dafodiaith dra Chymreigaidd, a barai i rai o fechgyn direidus y brif—ysgol, arfer cryn hyfdra arno, a chynyg gwneyd gwawd o hono; ac y mae yn ymddangos ei fod ef yn dra Chymreigaidd ar ei ddyfodiad cyntaf i Gaergrawnt; canys y rhai a'i hadwaenent oreu, a ddywedent iddo ddwyn llawer mwy o Roeg a Lladin ganddo i'r brif—ysgol, nag a feddai o Saes'neg da: ond, tra na's dirmygai efe ei iaith ei hun, gan ci chyfrif, megys y gwna rhai, fel rhyw rwystr annymunol ar ei ffordd i ddyrchafiad, efe a benderfynai na chai ei anhyddysgrwydd yn yr iaith Seis'nig, fod

  1. Gwel Cylchgrawn. Cyf. I. tudal. 255.
  2. Syr S. R. Meyrick's "Ancient Armour."