yn anfantais iddo ychwaith: a chan ochelyd cwmniaeth ei wawdwyr direidus, ymroddes i ddilyn ei efrydiaeth gyda diwydrwydd annghyffredin, fel y daeth efe yn feistr trwyadl ar gynnwys a chynaniaeth y Saesneg yn dra buan: ac yr oedd nifer y llyfrau a ddarllenodd efe yn ystod y pedair blynedd cyntaf hyn o'i arhosiad yn y Coleg, bron yn annghredadwy; yn enwedig pan ystyriom nad rhedeg drwyddynt yn arwynebol a wnelai efe; ond llwyr feistroli eu holl gynnwys. Mae yn wir y rhaid i ni addef ei fod ef vn feddiannol ar fanteision anarferol i hyny, yn un peth, am nad oedd raid iddo ef er ei iechyd, am fwy na thair awr o'r pedair ar hugain at gŵsg. Yr hyn sydd yn byrhau oes dyn yn ddirfawr ydyw cŵsg; yr hwn, fel trethwr haerllug sydd yn cymeryd yn agos i haner ein hamser oddi arnom yn doll a theyrnged: ond, ni thalai y gwr ieuanc dan sylw, namyn treth ysgafn iawn, i'r pen publican hwn o eiddo Anian; a chadwai gymaint o amser ar dreigl yn ei wasanaeth ar hyd ei oes, fel y gellir dweyd iddo fyw cyhyd ddwy waith a'r cyffredin o'i gyd-ddynion. Ac heblaw hyny, yr oedd efe yn nodedig am ei allu i gofio unrhyw beth a ddarllenai, fel y byddai ganddo yn gyflawn at ei wasanaeth ar unrhyw achlysur drachefn; ac yn fuan edrychid arno fel ysgolor oedd ar y brif ffordd i enwogrwydd a dyrchafiad yn ei Goleg. Efe a gyrchai yn fynych i gynnulleidfa yr Annghydffurfiwr enwog William Perkins yn y blyneddoedd hyn, ac er y gwyddai fod y cyfryw ymddygiad o'i eiddo, megys mŵg yn ffroenau yr Uchel eglwyswyr, ac yn peri i lawer o urddasolion y Coleg gilwgu arno, yr oedd efe, er ei ieuenged, mor hoff o Ddwyfyddiaeth gref a chlaer y Meistr hwnw yn Israel, fel y parhaodd efe yn wrandawr cyson arno hyd farwolaeth yr hen Dduwinydd galluog, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1602.
Tua diwedd teyrnasiad y frenines Elizabeth, y graddiwyd Mr. Williams yn Wyryf yn y Celfyddydau; ac yn mhen tua mis ar ol hyny, efe a etholwyd yn Gymrawd o Goleg Sant Ioan. Wedi y dyrchafiad yma, yn lle ymollwng i dreulio y tair blynedd a feddai cyn y gallai gymeryd ei râdd o Athraw yn y Celfyddydau, mewn segurdod a diofalweh, fel y gwna llawer o wŷr ieuaine dan amgylchiadau cyffelyb, efe a gyssegrodd ei holl amser i gyfoethogi ei feddwl â gwybodaeth fuddiol; gan ymroddi i ddarllen yr Awdwyr goreu, gwrando y Pregethwyr a'r Darlithwyr goreu, a chyfeillachu â'r cymdeithion gorau; ac er ieuenged ydoedd, cyflawnai ddyledswyddau ei sefyllfa fel Cymrawd o'r Coleg, mor fedrus, fel yr oedd pawb a fwynhäent y cyfle i'w wrando, yn synu, ac yn rhagfynegu yn eofn, fod dyrchafiadau llawer uwch eto yn ei aros, na dim a allai Coleg St. Ioan ei roddi iddo.
Yn y cyfnod yma, efe a ymroddodd i berffeithio ei adnabyddiaeth o'r Groeg a'r Hebraeg, dan gyfarwyddyd yr Athrawon Downes a Lively; a Mesuroniaeth, dan Mr. Edward Briggs; ac astudiai Ddwyfyddiaeth dan gyfarwyddyd Dr. Overal, am yr hwn y siaradai yn wastadol gyda pharch mawr, fel yr Athraw Duwinyddol galluoccaf a adnabu efe erioed. Ac yn y tymhor yma hefyd, efe a lafuriodd i ymgydnabod â'r Ffrancaeg, er ei alluogi i ddefnyddio. yr Awdwyr goreu yn yr iaith hono. Heblaw hyny, neillduai ambell awri efrydu Cerddoriaeth; ac mewn gair, gellid dywedyd fod y tair blynedd yma yn un cyfnod didor o lafur caled, er cyfoethogi ei feddwl.
Tua'r adeg yma, symudwyd ei Noddwr, Dr. Fychan, o esgobaeth Caerlleon, i esgobaeth Llundain, a thros y tair blynedd y cafodd y gwr da fyw wedi ei ddyrchafiad, efe a anfonai am ei gâr ieuanc o Gaergrawnt i dreulio ychydig wythnosau bob blwyddyn, yn ei lys ef yn Fulham, fel y gallai ymgydnabod mwy ag arferion y brif ddinas, a chael mantais i ddyfod i sylw pendefigion y deyrnas. Ar yr achlysuron yma y daeth efe i gydnabyddiaeth â John, Arglwydd Lumley, chwaer yr hwn a ymbriodasai a'r Henafiaethydd enwog, Wmphrey Llwyd, Ysw., o Fox Hall, ger Dinbach.
Yr oedd Arglwydd Lumley yn wr tra dysgedig ei hunan, ac yn feddiannol ar un o'r llyfrgelloedd gwerthfawrocaf yn y Deyrnas, yr hon a gasglesid trwy lafur y dywededig Wmphrey Llwyd. Y pendefig hwn a hoffai ein Hefrydydd ieuane yn fawr; ac a roddai iddo amryw lyfrau gwerthfawr, rhai o honynt yn gyflyfrau argraffedig, a rhai yn gynnwysedig o hen gyfysgrifau prinion; o'r rhai yr oedd efe yn falch dros ben: ac heblaw hyny, cyfranai ei Noddwr pendefigaidd gryn lawer o'i aur iddo o bryd i bryd, fel na's byddai ei logell yn ysgafn tra yn y Coleg.
Yn y flwyddyn 1605, efe a raddiwyd yn Athraw yn y Celfyddydau; ac ar yr achlysur hwnw, efe a wnaeth wledd fawr i'w gyfeillion, fel pe buasai ei briodas-wledd. Ond, wedi cymeryd y râdd yma eto, yr oedd efe mor bell o laesu dwylaw yn ei lafur llenyddol, fel ei hychwanegai yn hytrach, gan ymroddi i ddarllen gweithiau y Tadau, a'r Ysgolwyr (Schoolmen), ac astudiai Hanesyddiaeth Eglwysig gyda manylrwydd neillduol; ac, fel na byddai i'r naill efrydiaeth rwystro y llall, efe a'u cymerai i fynu bob yn ail fis; a pharhaodd i ddilyn y drefn hono o efrydu, dros oddeutu tair blynedd ar ddeg, sef hyd oni luddiwyd ef gan ei drafferthion gwleidyddol; a thrwy y llafur dybryd yma, efe a ddaeth yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd yn holl gylch Hanesyddiaeth eglwysig, a llenoriaeth grefyddol.
Ei gynnydd anarferol mewn gwybodaeth a dawn, a barodd iddo gael ei gyfrif yn deilwng, pan yn wr ieuanc pump ar hugain oed, i'w ymddiried i gyflawni negeseuon pwysig ar ran ei Goleg; trwy yr hyn ei dygwyd i sylw Iarll Salisbury, Cangellwr y brif ysgol, a'r Archesgob Bancroft, ffafr yr hwn a ennillodd efe mor fawr ar ei amryfal gyfymweliadau âg ef, fel yr anfonodd efe am dano, ddwy flynedd cyn ei raddio yn Wyryf Dwyfyddiaeth, i'w ddyrchafu yn Archddiacon Ceredigion, yr hyn a roddai iddo hawl i eistedd yn y Gymanfa Eglwysig, (Convocation.) Anfonwyd ef hefyd yn Genhadwr dros ei Goleg ar ryw achos pwysig at yr Arglwydd Gangellwr Egerton, ac at ei fawrhydi y Brenin, a chyflawnodd ei negeseuon ar yr achlysuron hyn yn y fath fodd, ag i enill ymddiried cyflawn y rhai a gynnrychiolai, a thýb dda yr Arglwydd Gangellwr a'r Brenin am dano. Efe a gafodd ei ordeinio yn offeiriad, pan yn 27ain mlwydd oed, a chymerth fywiolaeth fechan o'r enw Fakenham, yn swydd Norfolk, yr hon nid oedd yn rhy bell o Gaergrawnt, i allu o hono farchogaeth yno i gyflawni y gwasanaeth yn rheolaidd; a gallasai cymaint a hyny o ymarferiad corfforol fod yn dra gwasanaethgar i'w iechyd, heb ddrygu ei efrydiaeth. Nid oedd y lle yma namyn Ficeriaeth dlawd, a diau na buasai gwr ieuanc o alluoedd a chyfrifoldeb Mr. Williams yn ei cheisio er mwyn hyny o elw a ddeilliai oddiwrthi; ond yn hytrach er mwyn y cyfleusdra i geisio gwneyd