Tudalen:Cymru fu.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cytundeb âm dai a thiroedd, ond am yr yspaid o bedair blynedd, tan y perygl o golli y tiroedd hyny. "Nid oedd i'r Gwestyr a'r Beirdd, a'r Prydyddion, a dynion segur a chrwydrol, y rhai geisiant y gynaliaeth drethol a elwir Cymhortha, gael eu goddef a'u porthi yn y wlad,rhag trwy eu henllibau a'u celwyddau y cyffroant y bobl i ddrwg, ac y gorthrymant y bobl efo'u trethiadau."

Odditan y deddfau a'r mân ormesau hyn yr oedd teimladau gwrthryfelgar yn byw ac yn cynud; nid oedd eisiau ond y llaw gymhwys ddylanwadol i'w cyfarwyddo, a dyna eu holl adnoddau rhyfelgar at ei gwasanaeth. Yr oedd y cymhwysder a'r dylanwad hwnw yn cydgyfarfod yn Owen Glyndwr — yn hanu o deuluoedd breiniol, teithi bwysig gan genedl mor hoff o hynafiaeth â chenedl y Cymry; yn ddysgedig, mor ddysgedig nes y tybiai ei gydoeswyr, yn Saeson a Chymry, ei fod mewn cyfrinach gyda'r yspryd drwg; yn gyfoethog, yn ddewr, ac yn wladgarol. Yr unig , beth diffygiol ganddo oedd rhyw achos uniongyrchol i gymeryd blaenoriaeth yr ysprydoedd digofus hyn; ac nid hir y bu'r diffyg hwnw heb ei lanw.

Rhwng Rhuthyn a Glyndyfrdwy, safai darn bychan o dir, o feddiant amheus, a elwid y Croesau; ac yr oedd Reginald de Grey arglwydd Rhuthyn, ac arglwydd Glyn dyfrdwy yn ei hawlio. Bu cynghaws cyfreithiol rhyngddynt yn ei gylch yn nheyrnasiad y brenin Risiart, a thrwy fod Owen mewn ffafr gyda'r fainc y pryd hwnw, efe a gariodd y dydd. Pan esgynodd Harri i'r orsedd, Reginald a adnewyddodd y cyngaws; enillodd, a chymerodd feddiant cyfreithlon o'r darn tir. Gwelai Owen fod y rhôd yn dechreu troi yn ei erbyn; a'i anffafriaeth yn y llys yn dechreu ysu ei etifeddiaeth. Yna apeliodd trwy ddeiseb at y Senedd, gan ddisgwyl cael gwrandawiad yno, ond byddar oedd hono i'w gais a diystyr o'i ddeiseb. 'Cynhyrodd hyn oll lidiowgrwydd ei enaid. Chwanegwyd yn fuan at y sarhad hwn gamwri arall. Yr oedd Harri yn darparu ymgyrch yn erbyn y Scotiaid, a gwysiodd Owen, yn mhlith barwniaid eraill, i ddarpar gwyr ac ymuno gyda'i fyddin ef. Ymddiriedwyd trosglwyddo yr ŵys hon i de Grey, yn hwn, yn fradwdus, a'i cadwodd hyd onid oedd yn rhy hwyr i Owen allu ufuddhau i'w gofyniadau. Priodolodd y brenin ei anufudd-dod i deyrn-fradwriaeth, a rhoddodd ganiatad i Grey i atafaelu ei feddianau; a chan fod dial yn felys ganddo, buan iawn y dechreuodd hwnw ar y gwaith. Yr oedd John Trevor, esgob Llanelwy, yn rhagweled y