Tudalen:Cymru fu.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"hawdd ydyw dy gynghori; cais Arianrod ferch Don, dy nith ferch dy chwaer."

Dygpwyd y forwyn ato. "Ha! ferch," ebai ef, "ai morwyn ydwyt?" "Nis gwn, arglwdd, amgen nad wyf."Yna efe a gymerth ei swynlath ac a'i plygodd, "Cama di dros hon," ebai ef, "ac os morwyn ydwyt mi a gaf wybod."Yna hi a gamodd tros y swynlath, ac yn y fan ymddangosodd bachgen teg, ac iddo wallt bras melyn mawr. Ac wrth ddolefain y mab hwn, hi a gyrchodd tuag at y drws. Ar hyny, rhywbeth bychan a welwyd; a chyn y gallai neb gael ailolwg arno, Gwydion a'i cymerth. a rhoddodd lèn o bali o'i gylch, ac a'i cuddiodd. A'r lle y cuddiodd efe ef oedd gwaelod cist wrth draed ei wely.

" Yn wir," ebai Math, " mi a baraf fedyddio y mab hwn, a Dylan ydyw yr enw a roddaf arno."

Felly y mab a fedyddiwyd; ac fel y bedyddient ef, efe a ymsuddodd i'r môr. Ac mor fuan ac yr aeth i'r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai ag un pysgodyn yn yr eigion; ac oherwydd hyn y, gelwid ef Dylan eil Ton. Ni thores tôn odditano erioed. A'r ergyd trwy ba un y daeth efe i'w angau a roddwyd gan ei ewythr, Gofannion. Hwnw oedd " y trydydd anfad ergyd."

Fel y gorweddai Gwydion un diwrnod ar ei wely yn effro, efe a glywai sŵn yn y gist wrth ei draed; ac er nad oedd yn uchel, yr oedd er hyny yn hawdd ei gly wed. Cyododd Gwydion ar frys, ac agorodd y gist; ac wele ynddi fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blygiadau y llen, ac yn ei bwrw o'r neiìldu. Ac efe a gymerth y mab yn ei freichiau, ac a'i cyrchodd i fan y gwyddai fod gwraig a bronau ganddi, a chytunodd gyda hi i fagu y mab; a magwyd ef y flwyddyn hono.

Ar derfyn blwyddyn, edrychai yn debyg i blentyn dwy flwydd oed. Yr ail flwyddyn, yr oedd efe yn fab mawr, ac yn gallu myned ei hunan i'r llys. A phan ddaeth i'r llys, Gwydion a sylwodd arno, ac a synodd. A'r mab a ymgynefinodd ag ef, ac a'i carai yn fwy nag ungwr arall. Yna magwyd ef yn y llys, onid oedd yn bedair oed, ac edrychai mor fawr a phe buasai yn wyth mlwydd.

Un diwrnod, Gwydion a gerddodd allan, a'r mab a'i dilynodd hyd i Gaer Arianrod; a phan aeth Gwydion i'r llys, cyfododd Arianrod i'w groesawu ac i gyfarch gwell iddo. "Duw a roddo dda it'," ebai ef. " Pwy ydyw y mab sydd gyda thi?" "Y mab hwn, mab i ti ydyŵ ef." Ebai hithau, "Och! paham y cywilyddi fel hyn? paham y cedwaist fy nghywilydd cyhyd?" "Oni bydd arnat ti