Tudalen:Cymru fu.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgiliai y môr o'r Cantref yn awr ar ddystill trai ? — nad ydyw y manylydd rhyfedd hwnw, Giraldus Cambrensis, yn hanes ei deithiau trwy Gymru, 1188, yn yngan gair yn nghylch dinystr y fath le, a'i fod yn nesaf peth i anmhosibilrwydd i'r hen fwnc beidio croniclo y fath ddygwyddiad, a thynu moeswersi am farn ar annuwioldeb oddiwrth yr hanes; — nad oes dim yn y dysgrifiad a ddyry y Rhufeiniaid o Gymru, yr adeg y goresgynasant hwy ynys Prydain, yn tueddu neb i gredu fod darn mor fawr o dir wedi ei feddianu gan y môr ar ol hyny; na bod dinasoedd na phorthladdoedd o bwys yn bodoli y pryd hwnw lle y saif yn awr Feisfor Aberteifi; — na sonir gair yn nghylch y Cantref na'i ddinasoedd ardderchog yn Itinerary Antonius, na chan Ptolemaus, na Richard o Cirenester.


Davies, awdwr dysgedig y Mythology of the Druids, ydyw arweinydd yr ail ddosbarth. Dywed ef mai yr un person ffugiol ydoedd Gwyddno Garanhir a Thegid Foel, gŵr Ceridwen, a thad tybiedig y bardd Taliesin, — etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid, gerllaw y Bala.[1] Olrheinia yr awdwr hwn Gwyddno a Thegid Foel hyd y diluw, a dywed mai enwau ereill oeddent ar Noa. Llong nofiadwy sydd i'w ddeall wrth "etifeddiaeth yn nghanol y llyn," a'r llong hon ydoedd arch Noa. Aralleg o'r diluw ydoedd dinystr Cantref y Gwaelod, wedi ei chyfansoddi ganrifoedd cyn Cred, i ddwyn yr engraifft hono o ddigllonedd cyfiawn Duw i gyrhaedd amgyffredion a chylch dealldwriaeth yr hen Gymry.


Dosbarth y trydydd a gredant fwy neu lai o'r hanes fel y gosodasom ef i lawr yn y dechreu, ac y maent yn "unfryd unllais" o wirioneddolrwydd ffaith y gorlifiad. Seiliant eu barn ar y Trioedd, cydgasgliad ffeithiau hanesyddol, a daeareg y man y safai y Cantref arno. Dygir y ddau flaenaf gerbron yn nes yn mlaen. Traetha daeareg ei llên yn y Sarnau a geir yn Meisfor Aberteifi. Sarn Badrig (neu Badrhwyg, medd Pennant, oherwydd nifer y llongau a ddryllid arni), yn Meirionydd, a ymestyna 21 milldir i'r môr, ac a welir yn sych, medd rhai, am naw mill- dir, a gynwys olion amlwg o hen fur neu wrthglawdd; Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth, a gyrhaedd saith milldir i'r môr, ac yn ei phen eithaf y mae adfeilion hen Gaer, lle yn ol Lewis Morris, yr oedd palas Gwyddno Garanhir. Y

mae tair o sarnau ereill byrach, eithr yn cynwys llawn

  1. Gwel Hanes Taliesin yn y llyfr hwn