Tudalen:Cymru fu.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymaint o deithi hanesyddol a'u chwiorydd hirach ac enwocach, sef Sarn y Bwch, yn sir Feirionydd, milidir a haner o hŷd; Sarn Dewi, gerllaw Ty-Ddewi, chwarter milldir; a Sarn Cadwgan, milldir a haner o hyd. Hefyd, rai blynyddau yn ol, cafwyd lluaws o goed derw o dan wely y môr yn agos i geg yr afon Dysyni, un o ba rai a fesurâi chwe' troedfedd o drwch. Oddeutu tair milldir i'r gorllewin o Aberaeron, a haner milldir oddiwrth y lan, y mae cylch crwn o furiau peryglus, a elwir gan drigolion y cyrau hyny, "Eglwys y Rhiw." Gwelodd Lewis Morys faen a gafwyd gan' llath islaw pen llanw yn sir Aberteifi, a llythyrenau Rhufeinig wedi eu cerfio arno. Hefyd, darllenwyd papur o flaen y Geological Society, gan foneddwr o'r enw Yates, yn y flwyddyn 1832, ar y "Goedwig Danforawl," a ddarganfyddwyd tua'r amser hwnw yn Meisfor Aberteifi. Dywedai Mr. Tates fod y goedwig hon yn ymestyn ar hyd tueddau Meirion ac Aberteifi, ac yn cael ei gwahanu yn ddwy ran gan ymarllwysiad yr afon Dyfi. Rhyngddi â'r lan, yr oedd traeth tywodog, a chlawdd o raian a cheryg bychain. Tu hwnt i'r clawdd hwn, yr oedd llain o fawndir, a gorchuddid y goedwig gan haen o fawndir.


Y mae gwahaniaeth barn gyda golwg ar amseriad y Gorlifiad yn mysg y sawl a'i hystyriant yn ffaith. Wrth ganfod dystawrwydd cynifer o hen ysgrifenwyr yn ei gylch, tueddwyd rhai i gredu iddo gymeryd lle cyn y cyfnod Crist'nogol, ac y mae hen gywydd yn Meyrik's History of Cardigan yn dweyd yn bendant iddo ddigwydd yn 3591 o oed y byd, neu dros bedwar can' mlynedd cyn Crist. O'r ochr arall, tuedda doabarth lluosog i ystyried y Trioedd yn awdurdod digonol ar y pwnc; a chan fod y Triad hwn wrth law, ac o bwys i'r darllenydd gywir ddeall pa beth mewn gwirionedd a ddywed, yr ydym yn ei ddyfynu: — "Tri Charnfeddwon ynys Prydain : — Ceraint Feddw, brenin Essyllwg, a losges yn ei feddwdod yr holl ŷd yn mhell ac yn agos hyd glawr gwlad, ac o hyny dyrfod newyn bara; ail, Gwrtheyrn Gwrthenau, a roddes Ynys Daned yn ei ddiawd i Hors, am gael ymodinebu â Rhonwen ei ferch ef, a rhoddi hawl a wnaeth efo i'r mab a enid o hyny ar Goron Lloegr; ac yn un â hyny brad a chynllwyn yn erbyn cenedl y Cymry; trydydd, Seithenyn ab Seithyn Seidi, brenin Dyfed, a ollynges yn ei ddiawd y môr dros Gantre'r Gwaelod, oni chollwyd o dai a daear y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd