Tudalen:Cymru fu.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg; a chyfoeth Gwyddno Garanhir, brenin Ceredigiawn, ydoedd Cantre'r Gwaelod; ac yn amser Emrys Wledig y bu hyny; a'r gwŷr a ddiangasant rhag y bawdd hyny a diriasant yn Ardudwy, a gwlad Arfon, a mynyddoedd Eryri, a lleoedd ereill nad oeddent gyfanedd cyn hyny."

Y mae amseriad y dygwyddiad yn eithaf eglur yma, sef yn "amser Emrys Wledig." Ond pwy, a pha bryd yr amserai, y gŵr hwn ? Rhaid ei fod yn rhywun enwog cyn y galwesid ei oes ar ei enw. Dyma ei fywgraffiad yn ol Williams' Eiminent Welshmen : — Mab oedd Emrys Wledig (Aurelius Amhrosius) i Gystenyn Fendigaid, yr hwn a etholodd y Brutaniaid yn frenin arnynt wedi ymadawiad y Rhufeiniaid â'r ynys. Cystenyn a laddwyd yn un o'i ryfeloedd â'r Ffichtiaid; a'r pryd hyny yr ocdd Emrys yn cael ei addysgu yn Llydaw (Brittany) dan ofal ewythr iddo o'r enw Aldrawd, brenin y wlad hono. Y Brythoniaid, ar farwolaeth ei dad, a ddeisyfasant arno ddyfod trosodd atynt, gyda 10,000 o wŷr, i'w cynorthwyo i orthrechu y Sacsoniaid a wahoddasai Gwrtheyrn y sonia, y Triad blaenorol am dano i Brydain. Cymaint ydoedd llwyddiant Emrys fel rhyfelwr, nes yr etholodd ei gydwladwyr ef yn frenin arnynt, gan orfodi Gwrtheyrn i roddi gorllewinbarth yr ynys i fyny iddo; ac yn fuan wedi hyny, oherwydd fod yr hen frenin trythyll a moethus yn parhau yn fradwrus yn erbyn ei wlad a'i genedl, gwnaed Emrys yn frenin ar yr holl ynys. Dywed Brut y Brenhinoedd a Geofrey o Fynwy mai Emrys a adeiladodd y Cor Gawr Stonehenge, yr hwn a elwir hefyd 'Gwaith Emrys,' er cof am y tri chant pendefigion Prydeinig a fradwrus lofruddiwyd mewn gwledd gan y Seison. Rhydd Geoffrey gymeriad uchel iawn iddo, a dywed mai ei wenwyno a gafodd yn y diwedd yn Nghaerwynt (Winchester), gan ffug-feddyg o Sais o'r enw Eopa, wedi ei logi i'r anfadwaith gan Pascentius, un o feibion Gwrtheyrn. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 500."


Wele brawf arall dros yr un syniad. I Wyddno Garanhir yr oedd mab o'r enw Elphin, ac efe ydoedd noddwr penaf y bardd enwog Taliesin. Talodd y bardd lawer teyrnged o fawl a pharch i'w noddwr, a'r dernyn hwnw elwir "Dyhuddiant Elphin" o'i waith a ystyrd yn mysg ei oreuon. Y mae yr haneswyr Cymreig bron yn ddieithriad yn ystyried y Prif-fardd yn un o ddeiliaid y 5ed canrif.


Dyna ni wedi rhoddi barnau y teirblaid mor deg a diduedd ag y gallem. Ond y mae yn lled amlwg na