Tudalen:Cymru fu.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chymerodd y weilgi damaid mor fawr o dir oddiarnom ar unwaith. Nid yw y Triad yn crybwyll ond am orlifiad un cantref, sef 625,000 o erwau (acres). Gorwedda y beisfor ar naw neu ddeg o'r cyfryw gantrefi; ac y mae yn debyg mai rhan ohono yn unig a orlifwyd yn amser Gwyddno, megys y Traeth Mawr, rhwng Lleyn a gwlad Meirion, neu yn hytrach y darn hwnw o fôr rhwng trwyn Sarn Badiig ac Aberystwyth. Y mae y ffaith nad oedd y Cantref ond math o dalaeth perthynol i Geredigion, ac i'r dinystrydd ddyfod i fewn trwy esgeulusdra cau un o'r llifddorau, yn fafriol i'r dyb hon. Onid yw yn eithaf posibl, ac yn fwy rhesymol, ddarfod i'r gorlifiad gymeryd lle ar amrywiol amserau?


Pan ddelo Cymru mor doreithiog o ddaearegwyr ag ydyw yn bresenol o feirdd, diameu y teflir llawer o oleuni ar bynciau o'r naturyma; ac y mae yn rhyfeddod pa fodd na chododd o'n mysg luaws o enwogion yn y wyddon werthfawr hon, tra y meddwn gynifer o fanteision at astudio ansawdd a chyfansoddiad y ddaear. Mewn llawer ardal cyd gyferfydd pump neu chwech o wahanol haenenau â'u gilydd; ac y mae nifer mor lluosog o'r genedl yn enill bywioliaeth wrth dreiddio i fewn i'w chloddfeydd, a dwyn oddiyno y meini gwerthfawr, o'r gareg las a ddefnyddia y bugail i adeiladu ei luest hyd aur sir Feirionydd; ond er hyn oll, y mae yn ffaith alarus na feddwn yr un daearegwr gwerth son amdano.


Ond, heblaw Cantref y Gwaelod, y mae y môr wedi ysbeilio Cymru o aml ddarn gwerthfawr arall o dir. Dywed traddodiad ddarfod i drychineb gyffelyb oddiweddyd y traeth tywodlyd a pheryglus hwnw sydd yn cyrhaedd o ymyl Biwmaris hyd y Penmaen Mawr, a elwir Traeth y Lafan, neu Traeth y Wylofain, yr hwn a berthynai i dywysog o'r enw Helyg ab Gwlanog. Cymerodd y dygwyddiad le tra y cynelid gwledd fawr yn 'mhalas Helyg. Pan oedd y cwmni yn ymloddesta, tarawyd y telynor, yr hwn oedd broffwyd hefyd, â dychryn wrth ganfod y trychineb yn dyfod o bell; ac un o'r gweision a ddygwyddai fod yn y seler ar y pryd, yn ceisio rhagor o ffrwyth y winwydden i borthi mwythau ei uwchradd, a darawyd â dychryn, ac a redai ymaith fel un gwallgof, dan waeddi, " Y môr! y môr!" Y telynor a'r gwas hwn yn unig a lwyddasant i ddianc i ddiogelwch; y gweddill, yn nghyda'r eiddynt, a gollwyd yn yr elfen ddinystriol.


Dywedir hefyd fod darn mawr o dir wedi ei orlifo o du'r gogledd i dreflan Abergele ac fel prawf o hyny,