dyfynir y beddargraff canlynol oddiar hen gareg fedd sydd yn mynwent y lle hwnw: —
“ |
|
” |
Ond yn bresenol y mae y môr o fewn tri chwarter milldir
i'r dref. Byddai trigolion yr ardaloedd hyny er's talm
yn cynull tanwydd lawer oddeutu milldir oddiwrth y lan;
eithr oherwydd eu drygsawr wrth losgi, nid oes neb yn
awr yn myned i'r drafferth o ymofyn am danynt.
Dyna hyd y gwyddom yr unig draddodiadau sydd ar
gael o'r môr yn cwtogi rhandiroedd Cymru; ac wrth
ystyried er's cynifer o filoedd o flynyddau y mae efe yn
parhaus ymguro yn erbyn ei glanau eang a phrydferth, a
chynifer o brydiau y bu yn ymgynddeiriogi mewn tymestl,
gan ymddangos mor fygythiol a phe buasai am lyncu ein
Tywgsogaeth ardderchog i'w grombil anferth, y mae yn
syndod na syrthiasai rhagor ohoni iddo yn ysglyfaeth.
Yr Hwn a roddodd ei ddeddf iddo ar y cyntaf, a'i
ffrwynodd hefyd yn rhwymyn ei derfynau; ac ni ruthrodd
efe erioed dros erchwynion ei wely heb ganiatad ei
Lywodraethwr.