Tudalen:Cymru fu.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TALIESIN BEN BEIRDD

NID oes yr un enw Cymreig mor adnabyddus i genedloedd estronol ag enw "Taliesin Ben Beirdd." Cyfenwid ef yn "Ben Beirdd" oblegyd ei fod yn mysg y beirdd hynaf a feddwn fel cenedl; ac ar lawer o ystyriaethau yn rhagori mewn awen a gwybodau ar ei gydoeswyr — Aneuryn, Merddin, a Llywarch Hen. Arddengys yn ei weithiau y fath gydnabyddiaeth eang â chyfrinion Barddas a Derwyddiaeth, nes ydynt yn gwbl annealladwy i'r nifer luosocaf o ddarllenwyr yr oes hon; ac y mae yr hanes canlynol yn perchen llawer o'r cyfyw deithi cyfriniol. Ni byddai ond rhyfyg ynom ni amcanu deongli y fath aralleg henafol, er y tybiwn ar brydiau ein bod yn gweled trwy ei niwl a'i thywyllwch. Gwnaed y darllenydd y goreu allo ohoni. Dywed y Celtic Davies mai dyma y tamaid goreu o hynafiaeth a fedd ein llenyddiaeth; ac y mae efe, trwy Dderwyddiaeth a ffugiaeth, yn gweled y cyfan o'r hanes mor oleu a chanol dydd. Yr argyhoeddiad ar ein meddwl egwan ni, pa fodd bynag, ar ol darllen ei waith dysgedig ar y pwnc ydoedd, ei fod yn gwneud tywyllwch yn dywyllwch eithaf.


HANES TALIESIN

Yr oedd boneddwr gynt yn Mhenllyn elwid Tegid Foel, etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid. Enw ei wraig oedd Ceridwen; ac iddynt yr oedd mab elwid Morfran ab Tegid, a merch elwid Creirfyw, yr hon oedd y fenyw deca yn yr holl fyd; eithr brawd i'r ddau hyn, a elwid Afagddu, oedd y dyn hagraf yn yr holl fyd. A Cheridwen ei fam, yn tybied na chai efe dderbyniad yn mhlith boneddigion, oherwydd ei hagrwch, oni bae arno ryw gampau neu wybodau urddasol, a benderfynodd ferwi pair o awen a gwybodau i'w mab. Cyfarwyddid hi gan lyfrau Pheryllt, a chymerodd hyn le yn amser Arthur a'i ford gron.


Yr oedd y pair hwn i ferwi yn ddidor am un dydd a blwyddyn, ac hyd oni cheid ohono dri dyferyn bendigedig o rad yr Yspryd. Rhoddwyd gofal y pair ar ŵr o'r enw Gwion Bach, mab Gwreng o Lanfaircaereinion, yn Mhowys;