a gŵr cibddall, o'r enw Morda, oedd i wylied dros y tân, ac i ofalu na phallai y berw am yr amser penodedig. Ceridwen hithau, wrth lyfrau Astronomyddion, ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd yn y meusydd o bob amryfal lysiau rhinweddol. Fel yr oedd hi un diwrnod yn llysieua, yn mhen tua blwyddyn wedi i'r pair ddechreu berwi, damweiniodd neidio a disgyn ar fys Gwion Bach dri dyferyn rhinweddol o'r sudd berwedig, a chan mor boeth oeddent, Gwion a darawodd ei fys yn ei ben. Mor fuan ag y gwnaeth ef hyny, daeth i wybod pob peth, ac yn mysg pethau eraill fod iddo fawr berygl oddiwrth Ceridwen; ac mewn ofn a dychryn efe a ffoes tua'i wlad ei hun. Wedi ymadael o'r tri dyferyn rhinweddol, y pair a holltodd yn ei haner, a'i gynwysiad gwenwynig a lifodd i aber gerllaw; a meirch Gwyddno Garanhir, yn dygwydd yfed ohoni ar y pryd, a fuont feirw; ac o hyny allan y gelwir yr aber hono, "Gwenwyn meirch Gwyddno."
Pan ddychwelodd Ceridwen o lysieua, a chanfod ei
llafur blwyddyn wedi myned yn ofer, hi a ymaflodd mewn
pastynffon, ac a darawodd Morda gibddall yn ei ben âg
ef, onid aeth un o'i lygaid ar ei rudd. "Paham ym
hanffurfiaist? " ebai yntau, "ni bu dy golled o'm hachos
i" "Gwir a ddywedaist," ebai Ceridwen, "Gwion bach
a'm hysbeiliodd," a hi a brysurodd i ddilyn Gwion, yr
hwn a'i canfyddodd hi yn dyfod o bell, ac a ymrithiodd yn
rhith ysgafarnog, ac a redodd ymaith. Ceridwen a ymrithiodd
yn Filast, ac a'i dilynodd at fin afon. Gwion a
neidiodd i'r dwfr, ac a drawsffurfiodd ei hun yn bysgodyn;
hithau a ymrithiodd yn Ddyfrast, gan ei ymlid mor galed
dan y dwfr nes ei orfodi i droi yn aderyn. Eithr ni ddiangodd
efe rhag dialedd ei erlynes yn y ffurf hono chwaith,
canys Ceridwen a ymrithiodd yn Farcutan, gan ei ymlid
yn galetach nag erioed; a phan ar ei orddiwes, ac yntau
âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar
lawr ysgubor. Disgynodd ar ei ben iddo, ac ymrithiodd
yn un o'r gronynau. Yna ymrithiodd hithau yn iâr ddu
gopog; daeth at y twr gwenith, canfyddodd ef ym mhlith
y grawn, a hi a'i llyucodd. Dywed yr ystori iddi fod yn
feichiog arno naw mis; a phan esgorodd, nis gallai hi
gael ar ei chalon ei ladd, gan mor dlws ydoedd. Yna hi
a'i gwniodd mewn cwrwgl (bol croen), ac a'i bwriodd i'r
môr, at drugaredd y tonau, ar y 29ain o Ebrill.
Y pryd hwnw yr oedd cored (ffishing weir) Gwyddno
Garanhir yn sefyll ar y traeth rhwng Dyfi ac Aberystwyth.