Tudalen:Cymru fu.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gerllaw ei gastell ef ei hun; ac yn y gored hono y delid gwerth can punt o bysgod bob nos Calanmai. i'r Gwyddno hwn yr oedd mab a elwid Elphin, un o'r gwŷr ieuainc mwyaf anffortunus yn y byd, yr hyn a ofidiai ei dad yn fawr, gan y tybiai iddo gael ei eni ar awr ddrwg. Trwy anogaeth ei gynghoriaid, boddlonodd Gwyddno roddi iddo dyniad y gored y flwyddyn hono, i edrych a wenai ffawd rywbryd arno, ac er mwyn bod hyny yn gynysgaeth iddo ar gyfer bywyd.


Dranoeth pan ddaeth Elphin at y gored, nid oedd yno un pysgodyn; eithr efe a welai rywbeth wedi glynu ar bawl y gored, a beth ydoedd ond cwrwgl. Yna dywedodd un o'r coredwyr wrth Elphin, " Ni buost ti erioed mor anhapus a heno, canys ti ddinystriaist gymeriad y gored, yn yr hon y ceid gwerth can punt bob nos Calanmai." "Efallai, ar ol y cwbl, fod cyfwerth can punt yn y cwrwgl acw," ebai Elphin; ac efe a barodd i un o'r dynion fyned i'w geisio a'i agoryd. Wedi ei agor, beth oedd o'i fewn ond plentyn tlws odiaeth; a'r dyn a'i cyrchasai a lefodd mewn edmygedd, "Llyma Daliesin! " [gwyneb tlws — fair face]. "Taliesin bid ei enw," ebai Elphin, ac efe a neidiodd ar ei farch, i fyned tua chartref, ac a gymerth y plentyn wrth ei ysgil, yr hwn a farchogai mor ddiysgog a phe buasai yn y gadair esmwythaf. A'r pryd hwnw, yn ol yr Hanes. efe a gyfansoddodd gân o ddyhuddiant a moliant i'w achlesydd Elphin ab Gwyddno, a welir yn niwedd yr ysgrif hon.


Yn mhen ychydig amser wedi i'r bardd sychu y deigryn oddiar rudd ei noddwr, gofynes Gwyddno Garanhir iddo beth oedd efe, ai dyn ai yspryd. Atebodd Taliesin y gofyniad mewn cân, a dechreua trwy ddywedyd mai prif- fardd Elphin ydoedd, ac mai ei wlad gysefin ydoedd bro y cerubin; ac yna crwydra y greadigaeth gan ddyweyd iddo fod yn bobpeth bron, dyben yr hyn, mae yn ddiameu, ydoedd gosod allau yr athrawiaeth Dderwyddol o draws-sylweddiad. Drachefn dygodd Elphin ei gaffaeliad gydag ef i balas Gwydduo, a'r tywysog a ofynes i'w fab pa Iwyddiant a gawsai efe gyda'r gored. Atebodd Elphin iddo gael peth gwell na physgod. "Beth oedd?" ebai Gwyddno. "Bardd" ebai Elphin. "Och! druan, beth dâl hwnw i ti?" Yna Taliesin a atebodd, "Fe dâl hwnw iddo ef fwy nag a dalodd y gored erioed i ti." "A fedri di ddywedyd pa beth, a chyn fychaned wyt" ebai Gwyddno. "Medraf fi ddwedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi," ac mewn cân arall, efe a fola yr elfen ddwfr; ac a