Tudalen:Cymru fu.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhona hollwybodaeth— "canys gwn a fu ac a fydd rhagllaw;" ac ymddigrifa eto yn athrawiaeth traws- seylweddiad — " teirgwaith i'm ganed, &c."


Dyna Hanes Taliesin, fel ei ceir yn y Myfyrian Archaiology, gydag ychydig gyfnewidiadau, er mwyn y darllenydd cyffredin.

DYHUDDIANT ELPHIN.
TALIESIN A'I CANT.


Elphin deg, taw a'th wylo —
Na chabled neb yr eiddo —
Ni wna les it' ddrwg obeithio
Nid a wyl dyn a'i portho—
Ni bydd coeg gweddi Cynllo —
Ni thyr a'r addawo —
Ni chaed yn nghored Wyddno
Erioed cystal a heno.


Elphin deg:, sych dy ddeurudd—
Ni weryd bod yn rhybrudd;
Cyd-dybiaist na chefaist fudd—
Ni wna les gormod cystudd;
Na ameu wyrthiau Dofydd —
Cyd bwyf bychan, wyf gelfydd;
O foroedd ac o fynydd,
Ac eigion afonydd
Y daw Duw a da i ddedwydd.


Elphin, gyneddfau dyddan,
Anwraidd [1] yw dy amcan;
Nid rhaid it' ddirfawr gwynfan —
Gwell Duw na drwg ddarogan
C'yd b'wyf eiddil a bychan
Ar gorferw mor lydan,
Mi a wnaf yn nydd cyfran
It' well na thrichan' maran. [2]


Elphin, gyneddfau hynod,
Na sor ar dy gaffaelod —
Gyn b'wyf wan ar lawr fy nghod,
Mae rhinwedd ar fy nhafod:
Tra b'wyf fi i'th gyfragod,
Nid rhaid it' ddirfawr ofnod —
Ond coffa enwau'r Drindod,
Ni ddichon dim dy orfod.


Nodiadau

  1. Anfilwraidd
  2. Math o bysgodyn