Tudalen:Cymru fu.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CADER IDRIS.

PRIN y rhaid hysbysu mai mynydd uchel yn sir Feirionydd ydyw Cader Idris. Ar ei grib uchaf y mae toriad yn y graig ar ffurf cader, lle, yn ol traddodiad, y byddai Idris Gawr yn myfyrio seryddiaeth, ac yn olrhain dyrys ddeddfau ac ordinhadau y llu wybrenol. Gosodir y gŵr hwn allan yn y Trioedd, gyda Gwydion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o "dri gwyn Serenyddion ynys Prydain," gwybodaeth pa rai o ddeddfau natur oedd y fath fel y gallent ragfynegi yr hyn a ddygwyddai hyd ddydd Brawd. Pa un ai oherwydd fod iddo gorff anferth o faint, ynte oherwydd ei fawr wybodaeth a'i athrylith, y gelwid ef yn "Gawr," nis gwyddom. Dywed un hanesydd y byddai yr hen Gymry yn galw dynion gwybodus a dysgedig yn gewri; ac y mae yn arferiad genym hyd y dydd hwn alw ein pregethwyr dyfnion, a'n hysgrifenwyr galluog, a phobl y teitlau, yn ddynion mawr, er na byddant ond rhyw erthylod ysgeifn, llwydion, llathen a haner o daldra; a galw dynion dienaid ac anwybodus yn gorachod, er eu bod ddwy lath o hŷd yn nhraed eu hosanau. Mae yn ddiameu fod Idris yn gawr o'r dosbarth cyntaf, gan y sieryd hanesiaeth mor uchel am ei ddysg; a myn y wlad gredu ei fod yn gawraidd o gorph hefyd, a dygir engraifft nerthol iawn yn mlaen i brofì hyny: — Y mae tri o feini mawrion, pob un ohonynt yn amryw dunellau o bwysau, heb fod nepell o'r mynydd hwn, eilw pobl yr ardal yn "Dri Graienyn," am i Idris, pan ar un o'i deithiau, eu teimlo yn ei esgid, ac wedi ei thynu oddiam ei droed, efe a'u bwriodd yn y fan hono. Darnau anferth ydynt wedi syrthio o'r graig gerllaw. Yn eu hymyl y mae llyn o ddwfr a elwir, "Llyn y Tri Graienyn."


Oddeutu blwyddyn yn ol, ymddangosodd yr hanesyn canlynol yn un o gyhoeddiadau goreu ein cymydogion; a chan ei fod yn dal cysylltiad â thraddodiad poblogaidd am y Gader, ac mor briodol i ansawdd y llyfr hwn, rhoddwn efelychiad ohono yma: —


"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn a breswylid gan ddarn o ŵr boneddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd ŵr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn