Tudalen:Cymru fu.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ni lwydd a wneir mewn hoced;
Gwaethaf 'stor oll o'r merched.
Eiry Mynydd, mae'n hysbys
Gnawd edifeirwch o frys;
Drwg fydd lleferydd ffawtus;
Anodd cydfod eiddigus;
Ni fawr gwsg un gofalus;
Mawr gwenwyn y gwenieithus;
Pell amcan y deallua;
Ffola dyn y cenfigenus.
Eiry Mynydd, llydan môr,
Goreu ar Hen ei gynghor;
Dyro i'th well ei ragor;
Gwell celfyddyd na thrysor;
Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor;
Un fath a llong ar gefnfor,
Heb raff, heb hwyl, heb angor,
Ydyw'r Ieuanc heb gynghor.

[Llywarch Hen, awdwr y gerdd uchod, oedd dywysog yn mhlith y Prydeiniaid Gogleddol; eithr y llwyth hwnw yn cael ei orchfygu gan y Saeson, Llywarch a enciliodd i Gymru, ac a wladychodd ar lan Llyn Tegid. Yn yr ardal hono drachefn bu brwydrau creulon rhyngddo â chyd- wladwyr Hengist mewn lle a elwir hyd y dydd hwn Rhiw-waedog. Yr oedd iddo bedwar ar hugain o feibion, a 'chollodd yr oll ohonynt yn y rhyfeloedd hyn. Cyfansoddodd farwnad iddynt, yn mha un y sylwai yn effeithiol ar amgylchiadau eu marwolaeth a manau eu bedd. Enw ei fab hynaf oedd Gwên, ac ymddengys mai hwn oedd anwylyd enaid ei dad. Lladdwyd Gwên a'i farch mewn brwydr; ac yn mhen hir amser ar ol hyny, dodwyd penglog yr olaf yn lle careg mewn sarn ar afon yn agos i'r lle y lladdesid ef. Llywarch ar dramwy a ddamweiniodd ddyfod heibio i'r sarn hono, a'i was a ddangoses y penglog iddo gan fynegi ei helynt. Yna y dywedodd Llywarch: —

MI a welais ddydd i'r march,
Ffriw[1]* hydd, taflydd tywarch,
Na sangai neb ar ei ên
Pan oedd tan Gwên ab Llywarch.

Blodeuai tua'r flwyddyn 590; a dywedir ei fod yn 150 oed pan fu farw, am hyny y gelwid ef yn Llywarch Hen.

Nid yw'r geiriau "Eiry Mynydd," neu eira mynydd, ond hoel i hongian arni y gwirebau ffraethbert.]

  1. wyneb