Tudalen:Cymru fu.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLWYN Y NEF.

(GAN GLASYNYS,)

Yr oedd ryubryd gynt yn Ngôr Beuno yn Nghlynog Fawr yn Arfon, fynach myfyrgar defosiynol, ac aml a diflin y myfynai am weledigaethau ysplenydd gwlad y tangnef tragyfyth. Ewyllysiai hefyd beunydd gael un cipolwg, pan "yn y cnawd, ar y breswylfa dawel. Un diwrnod, ar bryd Gosper, daeth i'w feddwl nas gallaill awenydd didranc diddarfod Gwynfa barhau fyth fythoedd yn ei felus flas. Hir-ddygn-feddyliai ar y pwnc, a thueddid ei feddwl i goelio y diflasid hyd yn oed ar aur delynau yr ardal lonydd.

Aeth o dipyn i beth i draethu ei syniadau wrth ei frodyr, a dechreuodd wasgu ar feddyliau y rhai ieuangaf ohonynt yr angenrheidrwydd o restru ei syniad ef yn mysg banau eu ffydd.

Ond un hwymos, ar bryd echwydd, rhodio yr oedd mewn dwysfryd fyfyrdod gyda glanau ffrydig sidellog heb fod yn neppell o'r Fynachlog. Yr oedd aniau yn noswylio, a'r adar cerddber caniadlais wedi tewi yn y cysgodlwyn; yn mlaenyr ymlusgai, a'i feddwl wedi'i lyncu gan fyfyrdod.' Sidellai'r ffrwd "fyth fythoedd ar ei thaith" — wrth frysio am ei chartref yn ngwlad y tonog li; ac elai'r mynach yn mhellach bellach i'r ceulwyn tawelfrig; ond yn ebrwydd, torodd miwsig mwyaf hyfrydlais hyfrydlon ar ei glust a glywsai erioed. Eisteddodd o dan gysgod "pren gwyrddlais," a syrthiodd i ryw fath o ddideimladwy swynol; canai yr aderyn; ä'i amser yn mlaen; ni wydda'r mynach ddim; a bu yn gwrando yn ddedwydd lawenfryd, am ganoedd lawer o flynyddoedd; ond, o'r diwedd, clywai. feluslais meddalfwyn yn galw arno, "Y cysgadir, cais godi." A chyfodi a wnaeth; ac ar ol crwydro enyd yn y coed. daeth o'r llwyn, ond er ei ddirfawr syndod yr oedd pob peth wedi cyfnewid! Y mae yn wir fod yr hen Fynachlog yno; a da oedd hyny, oblegyd yr oedd pob tŷ, bwth, clawdd, a chamfa, wedi cael ei symud er pan welsai ef y fan o'r blaen. Aeth i'r Fynachlog, ond nid adwaenid ef gan neb, ac ni wyddai yntau ddim ar faes medion y ddaear pa beth a ddaethai o'i frodyr yno. Grwnaed yn fawr ohono. Gofynodd yntau yn bur fuan