Tudalen:Cymru fu.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am gael lle i orphwyso. Aeth i'w wely. Ac erbyn i'r brodyr fyned i edrych amdano, ni chaed ohono ond dymaid "bach o ludw." A byth ar ol y digwydd hwn, galwyd y lle gerllaw Clynog yn LLWYN Y NEF; a dyma hanes yr Hen Wr o'r Coed, fel ag y mae yn cael ei hadrodd gan hen bobl oddeutu'r tân yn Arfon.

O. Y. — Dyma sail, y mae yn debyg, yr hen gerdd awenyddol yr Hen Wr o'r Coed. Pwy oedd awdwr y gân? Y mae'r Seven Sleepers, yn y chwedlau aillt, yn debyg iawn i hon, ac ef allai yn hyn na hi.

DAMEG YR HEN WRAIG A'R EDAFEDD.

Yr oedd hen wraig unwaith yn cael ar ddeall fod anghydfod parhaus yn mhlith ei phlant a'i hwynon, yr hyn a barai iddi deimlo yn dra adfydus. Galwodd hwynt oll yn nghyd, ac archodd i bob un ddyfod a phellen o edafedd gydag ef. Cydsynio a wnaethant hwythau a'i chais; a hi a gymerth edafedd oddiar un o'r pelleni ungor, a rhwymes âg ef ddwylaw y gwnaf o'i hwyrion, eithr torwyd hwnw yn ddioed. Rhwymes ei ddwylaw drachefn gydag edefyn ungor cryfach, a hawdd y torwyd hwnw hefyd. Yna parodd yr hen wraig iddynt gyfrodeddu yr holl beleni yn un rhaff; ac wedi iddynt wneud hyny, hi a gyraerth o hono, ac a rwymes ddwylaw y cryfaf o'i meibion. " Tôr di hwn yna, os gelli," ebai hi, eithr nis gallai yntau mewn un modd. Yna yr hen wraig a'u hanerchodd hwynt oll fel hyn; — " Gymaint cadarnach ydyw yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor! Felly chwithau, fy mhlant a'm ŵyron, tra byddoch yn anghydfod â'ch gilydd, pob un trosto ei hun, ac heb gysylltiad rhyngoch, hawdd ydyw eich gorfod. Ond os cydymlynwch yn gydgyfrodedd, nis gall gelyn yn y byd eich gorddiwes." O hyn y tarddodd y ddiareb, "Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor;" a diareb arall, " Nid cadarn, ond cydnerth;" ac un arall, " Hawdd taflu'r mynydd i'r môr ar ol ei wahanu y naill gareg oddiwrth y llall."