Tudalen:Cymru fu.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TUDUR ALED A'R BYSGODWRAIG

GWR ffraeth ac ysmala iawn oedd Tudur — arferai fyned i farchnad Caerlleon, ac yr oedd yno Gymraes o bysgodwraig dra enwog am dafodi, a byddai'r bardd yn galw arni bob amser er mwyn digrifwch. Un tro, tra ymlonai uwch dyferyn o fetheglin yn nghwmni un o'i gydnabyddion, digwyddai siarad am enllib-arferiad y bysgodwraig: gle,g ebai y cyfaill, gun ffraeth yw hon yna; medr hi hyd yn nod gau pen bardd!g gFelly,g meddai Tudur: gWel, yn gymaint a'th fod a chyn lleied o gred yn ngallu ffraethinebol bardd, mi ddaliaf alwyn o fetheglin â thi, y bydd i mi osod taw ar ei henllib cyn pen pum mynyd.g gPurion,g meddai ei gydnabod, a ffwrdd a hwy i'r marchnaddŷ. Wedi dyfod o hyd i'r wraig, gofynodd Tudur bris y mecryll. g Swllt y dwsin,g oedd yr ateb. gSwllt y dwsin! am ryw erthylod meinion, llygadgoch, tagellrwth, drewllyd fel yna,g meddai yntau. gIe, ac y maent yn rhy dda i dy ddanedd di am y pris.g g A wys ti a phwy yr wyt yn siarad, yr hen Hupynt Byr? Gwn o'r goreu, hefo grigwd o brydydd torsyth, na wyr ddim am fecryll.g gTaw a'th nâd, yr hen Dwyll Synwyr— fe'th welwyd di a dau Broest dan dy gesail o fewn yr wythnos yma, ac yr wyt wedi cuddio dy Gyhydedd Hir ar ben y gwely, yr hen Draethodl

Gyrodd hyn y wraig, yr hon ni wyddai ddim am ystyr y brawddegau barddol hyn, yn gynddeiriog, a dechreuodd arllwys ar ben y bardd gafod o wawd a blagardiaeth. gYna,g meddai Tudur, g yr wyt yn meddwl na wn i ddim o dy hanes di? Nid wyt ti ddim ond Unodl Crwca, ac nid yw dy holl deulu o hil gerdd yn ddim ond Cyhydeddau Nawban a Thawddgyrchau Cadwynog.g Yr oedd y bysgodwraig erbyn hyn bron wedi llanw llestr ei phwyll. g Os nad ei di oddiyma'r mynyd yma, mrth gym'raf o flaen dy well, am fy nyfenwi, un na buost di, na neb o'th deuli, 'rioedyn werth dal canwyll i mi; mae'n ffiaidd gan i siaradad y fath!g Aeth yntau yn mlaen: g Ti yfaist yn Mhenerlag, echdoe, dri pheint o Doddeidiau, a gorfuwyd dy gario adref mewn Berf Fynegol, a chafwyd dwy Gystrawen yn nghoryn dy het, ag oedd yn perthyn i Aneurin Gwawdrydd.g gCelwydd ddeudi di,g llefai'r wraig yn groch, gddygais i ddim 'rioed, y bwbach prydydd tordyn!g g Taw, taw,g ebai Tudur. gTydi yn wir! yr hen Glogyrnach, yr hen Gyrch a Chwta, yr hen Fannod, yr