Tudalen:Cymru fu.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen Ddybrydsain, yr hen Leddf a Thalgron, yr hen Wreiddgoll, yr hen Gynghanedd Gaeth, yr hen Bengoll, yr hen Gynghanedd Groes o gyswllt ewinog, — cymer di ofal peidio tafodi dy well byth ond hyny; yr hen Ragferf, yr hen Gynghanedd Lusg, yr hen Grych a Llyfn. Yr oedd hyn yn llawn ddigon; eisteddodd y wraig i lawr i nadu ac wylo, heb ddweyd gair o'i phen. Ar hyn daeth cyfaill Tudur yn mlaen, ac a sicrhaodd iddi nad oedd dim anmharch yn nim a ddywedodd, ond mai enwau diniwed ar fesurau y prydyddion, a therms y gramadegwyr oeddynt. Enillodd Tudur y metheglin, a gwnaeth anrheg o hono i'r bysgodwraig. — Y Brython.

YSTORI DOETHION RHUFAIN.

DECLEISIAN oedd ymherawdwr yn Rhufain. Ac wedi marw Efa, ei wraig briod ef, a gado un mab a oedd etifedd iddo ef, efe a ddanfones i nol SAITH DOETHION RHUFAIN ato; sef oedd eu henwau, Banteilas, ac Wystws, a Leteilws, a Malcwidas, Cato Hen, Iesse, a Marteinws. A'r gwyr hyny, wedi dyfod, a ofynasant i'r ymherawdwr pa achos y cyrchasai efe hwynt yno. "Llyma yr achos," ebai'r ymherawdwr, "un mab y sydd i mi, a'i ro'i a wnaf i ddysgu moesau a defodau." "Rhyngwyf fi a Duw," ebai Banteilas, "pe rhoddit ti dy fab ataf fi, mi a ddysgwn iddo gymaint ag a wn inau, mi a'm chwech cydymaith, erbyn pen y saith mlynedd." "Ie," ebai Gwstws, "rhodder y mab ataf fi, a mi a ddysgaf iddo erbyn pen y saith mlynedd gymaint aga wn, mi a'm chwech cydymaith." "Ie," ebai Cato Hen, gherwydd y ddysg a'r athrylith a gymero y mab, addawaf fi ei ddysgu iddo ef." "Ie," ebai Iesse "os ataf finau y rhoddi di dy fab i ddysgu, minau a'i lysgaf ef goreu gallwyf.g Ac yna y cafas yr ymherawdwr yn ei gynghor roddi y mab, ar faeth, at y Saith Doethion; ac adeiladu tŷ a wnaethpwyd ar lan yr afon Deibr, mewn lle caruaidd ar ddyffryn gwastad sych ar Faes Rhufain; fel y b'ai ddisathr y lle hwnw. A hwy a ysgrifenasant y Saith Celfyddyd ar y wal o bob parth i'r tŷ, ac a ddysgasant y mab onid oedd aeddfed ei synwyr, a chymhenddoeth ei barablau, ac araf-gall ei weithredoedd.

Ac yna y priodes yr ymherawdwr ymherodres wych o wlad bell, a dyfod a hi i'w lys ef. Ac ar ben talm o amser,