Tudalen:Cymru fu.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi a ymofynodd â phob dyn a oedd dim plant i'r ymherawdwr; ac un diwrnod, gofynodd i hen wrach heb un dant yn ei pben, "Er y nef, mynag i mi y gwir." "Nid oes iddo un mab," ebai'r wrach. "Gwae fi ei fod heb yr un," ebai'r ymherodres."Ni raid i ti hyny," ebai'r wrach, "ef a gaiff blant o honot ti, er nas caffai o arall; ac na fydd di drist, un mab y sydd i'r ymherawdwr, yn ei ddysgu gyda Saith Doethion Rhufain." Ac yna y daeth hi at yr ymherawdwr yn llawen, gan ddywedyd wrtho," Paham y celit ti dy blant rhagof fì?" "Nis celaf finau bellach yn hwy," ebai'r ymherawdwr, "ac yforu mi a ddanfonaf un i'w nol ef. "

A'r noson hono, fel yr oedd y mab a'i athrawon yn rhodio yn yr hwyr, hwy a welent yn eglurder y ser a chyffroedigaeth y sygnedd, y byddai y mab yn ŵr dienydd, onibai amddiffyn cymhenddoeth arno. A'r mab ei hun a weles hyny, ac yna y dywed efe wrth ei athrawon fel hyn: —"Pe amddiffynech chwi fi â'ch doethineb y saith diwrnod cyntaf, minau a amddiffynwn fy hun yr wythfed dydd." Ac addo a wnaethant.

A thranoeth, wele genadau yn dyfod oddiwrth yr ymherawdwr yn erchi dyfod â'r mab i'w ddangos i'r ymheredres newydd. Yntau a ymdrwsiodd mewn sidan, a melfed, a brethyn aur; a myned a wnaeth tua llys yr ymerawdwr a'i athrawon gydag ef. Yna, wedi ei ddyfod i'r llys, a'i groesawu gan ei dad a'r holl foneddigion, ni ddywed ef un gair. A drwg yr aeth gan yr ymherawdo weled ei unig fab yn fud; ac erchi ei ddwyn i'w ddangos i'r ymherodres. Pan y gweles hithau ef, hi a enynwyd o'i serch. A hi a'i dug ef i fewn ystafell ddirgeledig, a thrwy gellwair geiriau serchol yr ymddiddanodd hi âg ef, gan geisio ganddo adael llwybrau rhinwedd. A'r gwas ifanc, pan weles hyny, a adewis y tŷ iddi hi; a hithau, pan weles hyny, a roddes lef uchel, a thynu gwisg ei phen, a'i fwrw i'r llawr; a chyrchu tuag ystafell yr ymherawdwr; a rhyfedd nad oedd ysig penau ei bysedd, rhag mor ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd; a myned i gwyno trais a gorddwy wrth yr ymherawdwr rhag y mab, a dywedyd ei fod ef yn ceisiaw dwyn trais arni hi. Ac yna y tyngoddyr ymherawdwr y llŵ mwyaf — un a'm fudaniaeth ei fab, nad oedd waeth ganddo ei farw na'i fyw; yr ail, o achos sarhad y frenines — na byddai ei enaid ynddo yn hwy nag hyd dranoeth.

A'r nos hono, y dywed yr ymherodres wrth yr ymherawdwr,"Ef a dderfydd i ti am dy fab fel y darfu gynt i'r pren pinus mawr o achos y binwydden fechan ag oedd yn