Tudalen:Cymru fu.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tyfu yn ei ymyl, a changen o'r fawr yn llesteirio i'r fechan dyfu. Yna yr erchis y bwrdais bioedd y gwydd i'w arddwr dori cangen y binwydden ben ag oedd yn llesteirio ar y fechan gyfodi. Ac wedi tori y gainc, y pren yn gwbl a grinodd; ac yna yr erchis ei dori oll. Megys hyn y derfydd i tithau am dy fab a roddaist i'w feithrin at y Saith Wyr Doeth, er colled i ti. Y mae ef dan gêl yn ceisio undeb y gwyr da hyn, i'th ddistryw di. "

A'r ymherawdwr a lidiodd, ac a addawodd ei ddyfetha dranoeth. Wedi treulio y dydd hwnw a'r nos hono ar ardduniant a digrifwch i'r frenhines, yn ieuenctyd y dydd dranoeth y cyfodes yr ymherawdwr, a gwisgo amdano, a chyrchu i'r dadleudy, a gofyn i'r doethion pa angau a wneid ar ei fab ef.

Yna, codes Beatilws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: — "Arglwydd ymherawdwr," ebai ef, "os o achos fod dy fab yn fud y peri di ei roddi ef i angau, iawnach fyddai bod yn drugarog wrtho na bod yn greulon. Trymach iddo ef yr anaf nag i neb arall. Os o achos cyhuddiad yr ymherodres y peri di roi dy fab i angau, un ffunud y derfydd iti am dy fab, ag y darfu gynt i farchog boneddig am ei filgi." "Beth oedd hynny?" ebai'r ymherawdwr. "I'm cyffes i Dduw, nis mynegaf it' o ni roddi dy air ar arbed y mab heddyw." "Rhof yn wir'," ebai'r ymherawdwr, " mynag i mi y chwedl."

"Yr oedd marchog cadarn gwych yn Rhufain, a'i lys wrth ystlys y gaer. Ac un diwrnod yr oedd dwrdd mawr rhwng arglwyddi, a marchogion, a gwyr mawr; ac yna myned a wnaeth yr arglwyddes a'i mamaethod i ben y gaer i edrych ar y chwareu, a'r holl ddynion i gyd, heb adael neb yn y palas. Eithr mab bychan oedd i'r marchog llai na blwydd, yn y gadair yn cysgu yn y neuadd, a milgi yn gorwedd ar y brwyn yn ei ymyl. A chan weryriad y meirch, ac angerdd y gwyr, a thrwst y gwyr yn curo wrth y tarianau, y deffroes gwiber o wâl y dref, a chyrchu tua neuadd y marchog, ac ar ganfod y mab yn cysgu yn ei gawell, a dwyn hynt tuag ato. A chyn i'r sarph gael gafael yn y mab, bwrw naid o'r milgi, a gafael yn y wiber, a'r wiber ynddo yntau; a chan ei hymladd ill dau, troi o'r cawell a'i wyneb i waered, a'r mab ynddo; a'r milgi a laddodd y wiber, a'i gado yn ddrylliau yn ymyl y cawell. Yna, pan ddaeth y mamaethod i mewn, a gweled y cawell a'i wyneb i waered, a'r gwaed o bob parth iddo, myned a wnaethant dan lefain at eu harglwyddes, a dywedyd wrthi i'r milgi ladd ei hunig fab hi, yr hwn oedd yn cysgu yn y