Tudalen:Cymru fu.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cawell. Myned a wnaeth hithau dan lefain at y marchog, gan ffusto ei dwylaw yn nghyd, a dywedyd i'r milgi ladd ei unig fab ef. A'r milgi oedd yn gorwedd yn lluddedig yn ymyl y cawell. A phan glywes y milgi ei feistr yn dyfod i fewn, codi a wnaeth i'w gyfarfod; a'r marchog a dynodd ei gledd, ac a dorodd ben y milgi oddiar ei gorph. O achos cyhuddiad y mamaethod, ac er dyddanu yr argIwyddes, y marchog a droes y cawell a'i wyneb i fynu; ac yno yr oedd y mab yn holl iach, dan y cawell yn cysgu, â'r wiber yn ddrylliau mân yn ymyl. Ac yna yr ymofidiodd y marchog ladd o hono ar arch ei wraig filgi cystal â hwnw."

Yna y dywed yr ymherawdwr na leddid ei fab ef y dydd hwnw.

Ac wedi terfyn y dadleu, i'r neuadd yr aethant; a phan oedd barod y swper, i'r byrddau y daethant bawb yn ei radd. A phan wybu yr ymherodres fod yn well gan yr ymherawdwr ymddiddan na bwyta, hi a ymddiddanodd ag ef, ac a ofynodd os rhoddwyd y mab i angau. "Na ddo eto," ebai'r ymherawdwr."Mi a wn," ebai hi, "mai Doethion Rhufain a beris hyny. Un fodd y derfydd i ti o gredu iddynt hwy ag y darfu i'r baedd gwyllt a'r bugail." "Pa fodd y bu hyny " ebai'r ymherawdwr. "Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i angau yfory." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr. "Llyma'r chwedl," ebai hi." Pren pêrffrwyth oedd mewn fforest yn Ffrainc; a baedd gwyllt oedd yn y fforest, yr hwn ni fynai ffrwyth un pren yn y coed namyn y pren hwnw. Un diwrnod, bugail a ganfu y pren, a gwelodd yr afalau yn deg arno, ac yn felusber addfed, a chynull llonaid ei arffedog a orug efe ohonynt. Ac ar hyny, dyma y baedd yn dyfod; ac ni chafodd y bugail onid encyd i ddringo i frig y pren, a'i afalau ganto; a phan welodd y baedd nad oedd afalau yno fel arfer, ffroeni ac ysgyrnygu danedd a orug, ac arganfod y bugail yn mrig y pren; a thrwy lid dechreu diwreiddio'r pren a orug y baedd. A phan welodd y bugail hyny, efe a ddechreuodd ollwng afalau i lawr i'r baedd. A'r baedd, wedi bwyta ei wala, a gysgodd tan y pren; a phan y gwelodd yntau ef yn cysgu efe a ddisgynodd i'r llawr, ac â'i gyllell efe a dorodd gorn gwddwg y baedd.

Pelly y derfydd i faedd Rhufain o gredu y Saith Doethion; a'th fab a ddwg ffrwyth dy ymherodraeth oddi arnat." A'r ymherawdwr a dyngodd lŵ mawr na byddai ei fab fyw yn hwy na thranoeth. A thranoeth, trwy ddirfawr