Tudalen:Cymru fu.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lid, efe a ddaeth i'r dadleudy, ac ar hynt erchi dienyddio y mab.

Yna y codes Gwystws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: —" Arglwydd ymherawdwr, na chaniatäed nef iti wneuthur fel y gwnaeth Ipogras am ei nai." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr."Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar amddiffyn y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl: Goreu physigwr yn y byd oedd Ipogras, a nai fab chwaer oedd iddo. A brenin Hungari a ddanfones i erchi i Ipogras ddyfod i iachau mab oedd iddo yn wan-glaf ddiobaith. A hen ŵr dall oedd Ipogras; nis gallai ef na cherdded na marchogaeth ffordd cyn belled â hyny. Ac efe a ddanfonodd ei nai ieuanc yno; yr hwn wedi dyfod i'r llys a fwriodd olwg ar y brenin ac ar y frenines ac ar y mab, ac a ddywed, 'Nis gallaf fi ei feddyginiaethu ef heb wybod yn nghyntaf naturiaeth ei dad.' Yna y dywed ei fam mai ordderch ydoedd o Iarll Nafarn. A'r meddyg ieuanc a barodd roddi cig ych ifanc wedi ei rostio i'r mab, ac efe a ddaeth yn holl iach. Wedi i'r nai ddyfod yn ol, Ipogres a ofynes iddo pa fodd yr iachaodd efe y llanc yn holl iach. 'A chig ych ifanc,' ebai y nai. ' Os gwir a ddywedi, was,' ebai Ipogras, 'o ordderchiad y caed y mab hwnw.' 'Gwir,' ebai'r nai. Pan welodd yr hen wr fod ei nai mor gyfarwydd ag yntau, efe a benderfynodd ei ladd. Archodd iddo ddyfod i rodio gydag ef i le disathr dirgeledig; ac yno efe a ddywedodd, 'Mi a glywaf aroglau llysiau da'; 'mi a'i gwelaf hwynt,' ebai'r nai, 'a fynwch chwi hwynt?' 'Mynaf,' ebai Ipogras, 'hwde fy llaw; arwain fi uwch eu penau.' Ac felly y gwnaeth ei nai. Ac fel yr oedd y gwas ieuanc yn gostwng ei gefn i fedi'r llysiau, tynu ei ddagr a wnaeth Ipogras, a brathu ei nai o'r tu cefn iddo yn ei galon, a'i ladd yn farw. Am hyny y cablodd pawb Ipogras, ac y melldigwyd ef.

Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y'th felldithir dithau, o pheri ro'i dy fab i angau." "Na pharaf yn wir, heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r nos hono, ar ol swper, gofyn a wnaeth yr yrmherodres a roisid y mab i angau. "Na ddo," ebai yntau." "Ie," ebe hithau, "Doethion Rhufain a beris hyny. Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i hen ŵr da y tores ei fab ei ben." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf oni roddi di dy air ar ro'i y mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.