Tudalen:Cymru fu.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Llyma'r chwedl," ebai hithau: "Mi a glywais fod ymherawdr yn Rhufain, gwr tra chwanog i dda bydol, sef oedd ei enw, Grasian. Ac wedi iddo gasglu Llonaid tŵr o aur ac arian, a thlysau mawrwerth, gosodes wr o gybydd cyfoethog yn geidwad ar y tŵr hwn, tra f'ai ef yn casglu ychwaneg mewn lleoedd eraill. Ac yr gwr boneddig tlawd yn trigo yn y ddinas, a gwas ieuanc dihafarch-lym yn fab iddo. A'r gwr hwn a'i fab a ddaethant o hyd nos am ben y tŵr, ac a'i torasant, gan ddwyn llawer o'r da yn lladrad. A phan ddaeth y ceidwad i edrych y tŵr, canfu fod llawer o'r da wedi myned; ac yn ystrywgall, efe a osododd lud ardymheredig yn y lle y toresid y tŵr o'r tu mewn, i edrych a allai ddal y lladron, a'u dwyn at yr ym- herawdwr. Y lladron, wedi treulio y da hwnw, a'i osod ar diroedd a phalasau teg, a ddaethant yr ail waith tua'r tŵr; ac ar ol myned i mewn, cawsant ddigon o dda. Ond wrth ddyfod allan, a'u hyspail ganddynt, y gwr hen a syrthiodd i'r gerwyniad lud hyd at ei ên. Yna gofynodd gynghor gan ei fab. Y mab a ddywed: Fy nghynghor fyddai it' dori dy ben, a'i guddio mewn rhyw le dirgel; canys os byw a fyddi, ti a boenir ac a gystuddir, a pherir i ti gyfaddef y da, a'r sawl fu gyda thi yn ei ladrata. 'Och! fy arglwydd fab, nid felly y gwnei di; trugarocaf gwr yn y byd yw'r ymherawdwr; a'r da sydd genyf a roddaf i fynu iddo, a'm bywyd a gaf.' Yna y dywed y mab: — ' Myn y Gwr y credaf iddo, nid anturiaf fi dri pheth yn hytrach na thori dy ben oddiwrth dy gorph. 'Pa dri pheth yw y rhai'ny?' ebai y tad. 'Y da sydd genyf yr awr hon, a'm bywyd fy hun, a'r tiroedd a'r palasau teg a brynaist tithau.' Ac yn greulon efe a dorodd ymaith ben' ei dad."

"Ac felly y pâr dy fab dy ladd dithau o chwant dy deyrnas di a'th gyfoeth." "Myn fy nghred," ebai'r ymherawdwr, "ni bydd efe byw ond hyd y bore yforu." A thranoeth, yr ymherawdwr a aeth i'r dadleudy, ac archodd roddi y mab i farwolaeth yn ddiddeuair.

Yna y codes Lentiliws i fynu, ac y dywed; — "Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu i hen wr boneddig gynt am wraig ieuanc oedd iddo, yr hon a garai ef yn fawr." "Beth oedd hyny!" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir nis mynegaf, oni roddi di dy air ar gadw y mab ieuanc heddyw." "wnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl," ebai ef,"Hen wr da boneddig gynt a briodes forwyn ieuanc foneddig; ac ni bu'n hir ar ol y briodas oni fwriodd hi gariad lledradaidd ar was ieuanc