Tudalen:Cymru fu.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn llys arglwydd cyfagos. A hi a gytunodd i gwrdd ei gordderch gefn y nos. Yna myned i'r gwely rhwng ei gwr â'r pared; a chyn gynted ag y cysgodd y gwr hen, hi a godes o'i gwely yn araf a lledradaidd, ac a wisgodd am dani, a myned yn ddystaw trwy ddrws y neuadd, ac yn gymhwys at ei gordderch. Ac ni bu hir wedi hyny nes dihuno yr hen wr, a rhyfeddu glywed ei wely yn wag o'i gymhar; a thrwy lid mawr y codes ef i fynu, a chael canwyll, ac ymofyn am dani yn mhob rhan o'r plas, eithr yn aflwyddianus. Ac efe a ddaeth at ymyl y drws, a'i gael heb un pren, a'i drosolio yn ffest â dau drosol, megys na ddo'i hi i'w dŷ ef byth. Yn mhen yr hir a'r hwyr, hi a ddaeth at y drws, ac a'i cafodd wedi ei folltio yn dŷn; ac erchi agor a wnaeth hi. 'Dyma fy ngair, nas agoraf,' ebai'r gwr, 'ac yforu, yn ngwydd dy genedl, mi a fynaf wneuthur y gyfraith arnat ti'. Sef oedd y gyfraith yn yr amser hwnw, llabyddio â meini i farwolaeth. Ac wrth dalcen y tŷ, yr oedd llyn mawr o ddwfr, tua dau wrhyd o ddyfnder. Yna y dywed y wraig, 'Myn y Gwr y credaf iddo,' ebai hi, 'gwell genyf fi farw na hyny; neu yn y pysgodlyn fy moddi, na bod y dienydd hwnw arnaf.' A hi a gymerth faen mawr, ac a'i cododd ar ei hysgwydd, a'i daflu i ganol y llyn, a rhedeg i gornel i ymguddio. Pan glybu yntau y swn, daeth ar redeg i lawr o'r llofft, agores ddrws y neuadd, a rhedodd i'r llyn hyd ei wâr. Yna y rhedodd hithau trwy y drws, ac i'r llofft, a chan roddi ei phen trwy y ffenestr, hi a ofynodd iddo beth a wnai ef yno. 'Dy geisio di,' ebai ef. 'Yr wyf fi yma ar y llofft yn esmwyth iawn,' ebai hi. A gwylwyr y dref a ddaethant yno, a daliasant y gwr hen, a gwaeddodd hithau trwy y ffenestr, 'Deliwch y cydymaith yna, a gwnewch y gyfraith arno, canys nid iawn i hen wr syn o'r fath yna godi oddi wrth ei wraig briod lân a myned at buteiniaid.' Yna'r gwylwyr a'i dygasant i'r carchar; a gorfu arno ddyoddef yr angau a ddylasai hi ei ddyoddef, cyn haner y dydd hwnw, sef ei labyddio â meini. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau am dy fab; y hi sydd gelwyddog, a'r mab y sydd wir." "Mi a'i harbedaf ef, ynte, heddyw."

Ac wedi darfod swper, hi a ddywed wrtho "Mi a wn na adawodd Doethion Rhufain roi y mab i angau heddyw." "Na ddo yn wir," ebai yntau. "ie," ebai hi," un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i un o ddinaswyr Rhufain am bren pêrffrwyth oedd iddo, yr hwn oedd anwyl ganddo." Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr." Yn