Tudalen:Cymru fu.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"wir nia mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i anngau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Llyma'r chwedl," ebai hi, —"Yr oedd i wr boneddig gynt yn Rhufain, bren pêrffrwyth yn tyfu yn ei berllan, ac afallen ieuanc yn tyfu wrth fôn yr hen afallen; ac yr. oedd yn anwyl gan y gwr yr hen afallen, eithr anwylach ganddo yr un ieuanc, oherwydd ei thegwch. 'Yn wir,' ebai'r garddwr, 'pe fy nghynghor i a wnelit, ti a barit dori y pren ieuanc am ei fod yn esgynbren lladron a dynion drwg iddynt allu yspeilio yr hen bren o'i ffrwyth; ac nid oes modd dringo iddo ond ar hyd y pren ieuanc 'Yn wir,' ebai yntau, 'ni thorir dim o'r pren ieuancg Boed felly,' ebai'r garddwr. A'r nos hono y daeth lladron i'r berllan, ac yspeiliasant y pren yn gwbl o'i ffrwyth, a'i adael yn llwm erbyn tranoeth."

"Felly, arglwydd ymherawdr, dy fab dithau a Doethion Rhufain a'th yspeiliant er mwyn dy deyrnas, oni pheri di ro'i dy fab i angau; yr hwn a geisiodd wneuthur siom a chywilydd i mi ac i tithau." "Yn wir," ebai'r ymherawdr, "mi a baraf ei ro'i ef i angau yforu, a Doethion Rhufain gydag ef." Bore dranoeth, efe a ddaeth i'r dadleudy mewn llid mawr, ac a barodd roddi'r mab i angau yn ddiohir, a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Malcwidas i fynu, ac y dywed fel hyn: — "Os ar anogaeth dy wraig y peri di roddi dy fab i farwolaeth, hi a'th sioma di, fel y siomodd y blaidd y bugail." "Pa fodd y bu hyny?" "Yn wir ni s mynegaf oni roddi di dy air ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Blaidd creulon oedd gynt yn ceisio cyfle ar y bugail a'i anifeiliaid i'w lladd. Eithr yr oedd cwpl o waedgwn mawr gan y bugail, pa rai a ymlidient y blaidd, pan ddelai yn agos; yntau a gynygiodd heddwch i'r bugail os danfonai y cwn yn rhwym ato ef. A'r bugail ynfyd a gredodd weniaith y blaidd a'i ffalster, ac a ddanfonodd y cwn yn rhwym iddo. Yntau yn gyflym a'u lladdes hwynt; ac yn fuan wedi hyny, yr anifeiliaid; ac o'r diwedd y bugail. "

"Megys y lladdodd y blaidd y bugail a'i holl anifeiliaid, felly y lladd dy wraig dithau, o pheri roddi dy fab i angau o'i hanogaeth hi." "Ni pharaf hyny heddyw yn wir," ebai'r ymherawdwr.

Ac wedi swper y dywed yr ymherodres wrtho, "Megys y tyn dail a sawrau teg yr adwedd oddiwrth y bytheuaid, hyd pan gollont hwy ol y llwdn; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau, trwy eiriau teg a pharablau