Tudalen:Cymru fu.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"wenieithus am dy fab di, hyd oni chaffont dy ymherodraeth di a'th gyfoeth. Canys yr un ffunud y derfydd iti o gredu iddynt hwy ag y darfu gynt i Asian, ymherawdwr Rhufain." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf, oni roddi dy air ar roi'r mab i angau yforu" "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr," mynega'r chwedl. "

"Yr amser yr oedd Fferyll yn Rhufain, efe a blanodd golfen yn nghanol Rhufain; ac ar ben hono yr oedd drych o gelfyddyd Igmars; ac yn ydrych hwnw y gwelai Seneddwyr Rhufain pa deyrnas bynag a fyddai'n troi yn erbyn Rhufain. Yna, yn gyflym hwy aent am ben y wlad hono, ac a'i troent tan Rufain yr ail waith. A'r golfen hono oedd yn peri i bob teyrnas ofni Rhufain yn fwy na dim; ac am hyny y cynygiodd brenin y Pwyl beth difesur o dda i'r neb a gymerai arno fwrw y golfen hono i lawr, a thori y drych. Yna y codes dau frawd i fynu yn y fan, a 'dywedyd fel hyn: — 'Arglwydd frenin, pe caem ni ddau beth a geisiem genyt, ni a fwriem y golfen i'r llawr, a'r drych a dorem. 'Beth yw hyny?' ebai'r brenin. 'Nid amgen na'n dyrchu ni mewn cyfoeth ac anrhydedd o hyn allan; a rhaid i ni gael cyfreidiau priodol yr awr hon, nid amgen na dau farilaid o aur; canys chwanocaf gwr o'r byd i aur yw'r ymherawdwr.' 'Hyny a gewch chwi yn llawen,' ebai'r brenin. A'r awr a gawsant, a phen y daith a gyrhaeddasant; ac ar hyd nos hwy a gladdasant y ddau farilaid aur mewn dau fan gerllaw pyrth y dref yn ymyl y ffordd; ac i'r dref yr aethant y nos hono, a lletya. Dranoeth daethant i lys yr ymherawdwr,a chyfarch gwell iddo, a deisyf cael bod o wasanaeth iddo. 'Pa wasanaeth a fedrwch chwi ei wneuthur?' ebai'r ymherawdr. 'Ni a fedrwn fynegi i chwi a fo a ni ' neu arian cuddiedig yn eich. teyrnas chwi; ac o bydd, peri i chwi eu cael hwynt oll' 'Ewch heno ac edrychwch erbyn yforu a oes aur neu arian i'm teyrnas i; ac o bydd, mynegwch i mi; ac o chaf hwy, mi a'ch gwnaf chwi yn anwyliaid im'. Ac i'w llety yr aethant y nos hono. A thranoeth y mab ieuangaf a ddaeth ger bron yr ymherawdwr, ac a ddywedodd gael ohono mewn dewiniaeth wybod pa le yr oedd barilaid o aur yn ymyl porth y dref, yn nghudd. Yna y peris yr ymherawdwr fyned i geisio hwnw; ac wedi ei gael a'i ddwyn iddo, efe y cymerth y gwas yn anwyl wasanaethwr. A thranoeth y daeth y gwas arall ger bron yr ymherawdwr, a dywedyd gael ohono, ar freuddwyd, wybodaeth pa le yr oedd barilaid o aur yn nghudd, yn ymyl porth arall i'r