Tudalen:Cymru fu.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dref. Ac wedi profi hyny, a'i gael yn wir, credu iddynt o hyny allan, a mawr fu gan yr ymherawdwr, am danynt, a'u cymeryd yn anwyliaid iddo. A'r dydd nesaf hwy a ddywedasânt fod aur o dan y golfen a gyfoethogai'r deyrnas. Yna y dywed Seneddwyr Rhufain, o ddiwreiddio'r golfen, na byddai cyn gadarned deyrnas Rhufain o hyny allan. Eithr nid adawodd chwant yr aur a'r arian i'r ymherawdwr fod wrth gynghor y seneddwyr, nes diwreiddio'r golfen a'i bwrw i lawr, a thori y drych yn llaprau. A phan ddarfu hyn, dyfod am ben yr ymherawdwr a wnaethant, a'i ddal, a'i rwymo, a chymheli arno yfed aur berwedig, gan ddywedyd wrtho, ' Aur a chwenychaist, ac aur a yfi.'"

"Yn y modd yna, tithau a wrandewi ar Ddoethion Rhufain, y rhai a'th ddyhuddant ag euraidd barablu, i annghredu fy nghynghor i, am ddienyddio dy fab, hyd oni wnelont dy angau a'th addoed yn ddibris." "Myn fy nghred," ebai ef, "ni fydd byw y mab eithr hyd yforu." A thranoeth y bore, efe a archodd ddienyddio y mab.

Yna y cyfodes Cato Hen, wr cymhenddoeth, a dywedyd fel hyn: "Arglwydd ymherawdwr, nid yn ol ymadroddion ffals, celwyddog, a glywo dy glustiau, y dylit ti farnu; namyn trwy amynedd a cheisio gwirionedd rhwng hen ac ieuanc; ac mor gywir fydd dy wraig i ti, yr hon yr wyt yn ei charu ac yn ei chredu, ag y bu gwraig y Siryf o Lesodonia." "Cato," ebai'r ymherawdwr, "pa wedd fu hyny?" "Dyma fy ffydd, nis mynegaf, oni roddi di dy air na ddienyddir y mab heddyw." "Na ddienyddir, myn fy nghred," ebai ef.

Yr oedd gynt was ieuanc o Rufain yn Siryf yn Lesodonia; ac un diwrnod, yr oedd efe yn naddu paladr, a'i wraig yn cydgam ag ef, ac yntau yn chwareu â hi. Ac wrth chwareu felly, cyfarfu blaen ei gyllell â'i llaw hi, oni ddaeth y gwaed; a chynddrwg oedd ganddo oherwydd hyny, nes y brathodd â chyllell ei fron ei hun, ac y bu farw. Wedi gwneuthur ei gywirdeb, a gwasanaeth yn y llys, efe a ddygpwyd tua'r llan i'w gladdu; a rhyfedd' nad ysig penau ei bysedd rhag ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd, wrth gwyno ei cholled i'w gwr; uwch oedd ei llef a'i diaspedain nag a oedd o gorn a chloch dros wyneb yr holl ddinas. Wedi claddu y gwr, ac i bawb gilio o'r eglwys, ei mam a erchis i'r weddw ieuanc ddyfod gyda hi adref. Hithau a dyngodd i'r Gwr oedd uwch ei phen, nad ai hi oddiyno oni fai farw. ' Nis gelli di,' ebai ei mam, ' gyflawni y gair yna; ac am hyny iawnach iti ddyfod i'th lys dy hun i gwyno dy wr, na thrigo mewn lle ofuog, unig,