Tudalen:Cymru fu.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac aruthr fel hwn.' 'Mi a brofaf os gallwyf,' ebai hi. Yna y peris ei mam gyneu tân goleu ger ei bron, a gadaw bwyd a diod iddi i'w dreulio pan ddeuai newyn ati, wrth na chyfarch. newyn o'i borthi. A'r nos hono y daeth marchog ar ei farch o'r gaer i wylied herwyr a grogesid y diwrnod hwnw. Ac fel yr oedd efe yn dysgwyl o bell ac o agos, efe a welai oleuni mewn lle nas gwelsai erioed o'r blaen. Aeth ar ei farch i edrych pa le yr oedd y goleuad, a pha achos oedd iddo. A phan ddaeth efe yn agos, efe a welai fur, a mynwent, ac eglwys; ac yn yr eglwys, dân uchel a goleu. Yna ffrwyn-glymu ei farch a orug wrth ystigl y fynwent, a myned i edrych pwy a welai yn yr eglwys. Ac nid oedd yno namyn un forwyn- wraig ifanc, yn eistedd uwch ben bedd newydd, a goleu a thân difwg ger ei bron, a digon o fwyd a diod yn ei hymyl. A gofyn a wnaeth y marchog iddi, beth a wnai un mor ieuanc â hi mewn lle mor ofnog â hyny ei hunan. A hithau a ddywedodd nad oedd arni ofn dim cymaint ag oediad angau i ddyfod ati. Pa achos sydd i hyny?' ebai ef. 'Claddu,' ebai hi, 'y gwr a gerais fwyaf, ac a garaf tra fwyf byw, yn y lle hwn heddyw; a digêl a dyogel genyf, y carai yntau finau yn fwy na neb, pan ddygai ef ei fywyd ei hun o'm hachos.' 'O, unbenes i' ebai'r marchog, 'pe fy nghyngor i a wnelit, ti a newidiet y meddwl yna, ac a gymrit wr a f'ai cystal ag yntau, neu well' 'Na fynaf,' ebai hi, 'myn y Gwr sydd uwch ben, wr byth ar ei ol ef.' A'r marchog a aeth tua'r crogbren; ac efe a gafodd fod un o'r cyrph wedi ei gymeryd oddiar y pren, a drwg oedd ganddo am hyny. Y gwasanaeth hwnw oedd arno i'r ymherawdwr tros ei dir; nid amgen na chadw gwyr boneddigion crogedig rhag i'w cenedl ddwyn eu cyrph i'w claddu. Ac eilwaith y daeth efe at yr unbenes, a dywedyd wrthi ladrata un o'r cyrph. Pe rhoddit ti dy gred ar fy mhriodi i, myfi a'th wnawn yn rhydd oddiwrth y golled yna,' ebai hi. ' Dyma fy nghred, y'th briodaf,' ebai'rmarchog. 'Fel hyn y gwnei di: dadgladd di y corph y sydd yn y bedd hwn, a chrog ef yn lle y lleidr; a hyny nis gwyr neb ond nyni ein dau.' A dadgladd y bedd a wnaeth, hyd oni ddaeth at y corph. ' Dyma'r gelain,' ebai hi, 'bwrw i fynu ef. "I'm cyffes i Dduw,' ebai'rmarchog, 'hawddach fyddai genyf ymladd â thri o wyr na rhoi fy llaw ar un marw.' 'Mi a'i gallaf,' ebai hi; a rhoi naid ysgymun i'r pwll, a'i godi ar y naill ben, a'i fwrw i fynu. 'Dwg di hwn, bellach,' ebai hi, 'tua'r crogbren.' 'Na, nis gallaf fi na'm march gerdded ond yn anhawdd, gan faint sydd o arfau i'm cylch. 'Mi a'i