Tudalen:Cymru fu.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wnaf', ebai hi, 'dyrcha di ef ar fy ysgwydd.' Ac wedi ei gael ar ei hysgwydd, hi a gerddodd fras-gamau gwrol, nes dyfod ag ef hyd at y crogbren. 'Och!' ebai'r marchog, 'pa les er hyny? yr oedd dyrnod cleddyf ar ben yr hwn.' 'Taro dithau ddyrnod ar ben hwn,' ebai hi. 'Na tharawaf, i'm cyffes,' ebai ef. 'Mi a'i tarawaf,' ebai hi; a chymerth afael yn nghleddyf y marchog, a tharaw y marw lawn dyrnod yn ei ben ag ef. 'Ie,' ebai'r marchog. 'pa les er hyny? yr oedd yr herwr yn fantach, wedi tori tri o'i ddanedd blaen wrth ei ddala.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd, ebai hi,' a chymerth faen mawr, a'i godi ar ei hysgwydd, a'i daro yn erbyn ei drwyn a'iddanedd, nes eu tori hwynt yn ddrylliau mân. 'Ie,' ebai'r marchog, 'nid ydwyt nes; yr oedd yr herwr yn arfoel.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd,' ebai hi; a chymeryd ei ben ef rhwng ei dwy goes, a dechreu plycio ei wallt. Ni fu na gwr yn eillio, na gwraig yn gwnio, haner can gynted ag yr oedd hi yn tyrnu gwallt ei ben ef, nes ei wneuthur yn foel o'i wegil hyd ei dalcen. Wedi hyny yr erchis hi i'r marchog ei grogi ef. 'Dyma fy nghred, nas crogaf, ac nas crogi dithau ef. Pe na f'ai ond tydi yn y byd, ni fynwn dydi; pan fait mor angharedig i'r gwr a'th briodes di yn forwyn, ac a ddug ei fywyd o'th achos di, angharedig o beth fyddit ti i mi, heb weled golwg arnaf hyd heno. A dos di ag ef i'r lle y mynych.' Yna y cymerth hi y gwr ar ei chefn i'w gladdu ei hunan eilwaith. "

"Ym cyffes i Dduw, arglwydd ymerawdwr, cyn anghywired â hyny fydd dy wraig i tithau, yr hon yr wyt yn ei chredu, ac yn ceisio rho'i dy fab i angau o'i hachos." "Yn wir,'i ebai'r ymherawdwr, "mi a'u cadwaf ef heddyw."

A'r nos hono yr ymherodres a ofynes i'r ymherawdwr, os dienyddiwyd y mab. "Naddo eto," ebai yntau. 'Ni dderfydd hyny byth tra fo byw Doethion Rhufain; canys megys y tỳn y famaeth y dyn bach o'i lid a'i gyffro trwy seinio yn ei glustiau, neu ddangos rhywbeth ffol; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau oddiar dy lid a'th gyffro, am fy ngwaradwydd i a'm cywilydd gan dy fab di, trwy eu gweniaith a'u hymadrodd teg. Un ffunud y derfydd i ti o'r diwedd ag y bu i'r brenin a welai trwy ei hun ei ddallu beunydd." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar ro'i'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebâi yntau.

"Yr oedd gynt frenin ar un o ddinasoedd Rhufain; ac wedi myned yn mhell mewn oedran, efe a osodes saith o wyr cymhengall i lywodraethu y ddinas. A'r gwyr hyny