Tudalen:Cymru fu.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrtho mai brenin urddedig oedd yn trigo yno. Yr anoeth yr aeth efe i ymyl porth y castell. a galw y porthor ato, a gofyn iddo a fynai y brenin farchog cywir, diffals, yn ei wasanaeth. A'r porthor a ddywedodd y mynai. Ac i'r castell yr aeth, a chanmoledig a fu gan bawb, ac yn mhen amser y brenin a'i gwnaeth ef yn oruchel ystiwart dros ei holl gyfoeth; yna efe a ddywedodd wrth y brenin fod yn rhaid iddo gael ystafell mewn lle dyeithr i feddylio yn nghylch ei swydd a'i gyfrifon. 'Cymer y lle a fynych,' ebai'r brenin. 'Dyma a fynwn i ei gael,' ebai'r marchog, 'adeilad ystafell yn ymyl eich tŵr chwi.' 'Da yw genyf fi hyny,' ebai'r brenin. A'r marchog a beris wneuthur ystafell iddo yn ymyl y tŵr. A'r brenin oedd yn cadw y frenines mewn tŵr cauad; a phan elai allan, cloi y tŵr a wnai, a dwyn yr allwedd ganto. A'r marchog a beris i'r masiwn wneuthur ffordd ddyogel iddo ef fyned i'r tŵr at y frenhines; a'r saer a wnaeth hyny. Ac fel yr oedd y marchog un diwrnod yn gwasanaethu wrth y ford, y brenin a weles y fodrwy anwylaf ar ei elw ar fys y marchog; ac yn llidiog gofynodd iddo pa le y cawsai efe y fodrwy hono. A'r marchog a dyngodd na buasai feddianus neb ar y fodrwy, eithr mai efe a'i prynasai. Yna tewi a wnaeth y brenin nes darfod cino. Y pryd hwnw aeth i'r tŵr i ofyn y fodrwy i'r frenhines; a'r marchog a aeth o'i flaen i roi y fodrwy iddi hi; a hithau a'i dangoses i'r brenin. A'r brenin a ddigiodd wrtho'i hun am feddwl mor ddrwg o'r marchog. Yna y dywed y marchog wrth y frenines: 'Mi a âf i hela yforu gyda'r brenin, ac mi a'i gwahoddaf ef i'w frecffast; ac mi a ddywedaf wrtho ddyfod y wraig fwyaf a gerais erioed ataf o'm gwlad; a bydd di yn yr ystafell erbyn ein dyfod ni adref, ac amryfal wisgoedd am danat; ac er a gymera y brenin o gydnabod arnat ti, na chymer arnat ei adnabod ef, na'th fod wedi ei weled cyn hynny erioed.' 'Mi a wnaf hyny,' ebai hithau. trauoeth aethant i hela, ac wedi darfod hela, y marchog a wahoddes y brenin i ddyfod i'w ystafell ef i frecffast. A phan aeth i mewn, gwelai ei frenhines ei hun yn ystafell y marchog, a gofynodd iddi pa ffordd y daethai yno. ' Anhawdd imi fynegi pa sawl ffordd ddyeithr a gerddais o'm gwlad hyd yma; ac ni wn i am le iawnach i mi fod nag yn ystafell y gŵr mwyaf a gerais i erioed; ac os bwrw cydnabod yr wyt, edrych pa le y mae yr hon yr wyt yn ei cheisio, canys ni welaist ti olwg arnaf fi erioed o'r blaen. Yna tewi a wnaeth y brenin, a meddylio na welsai efe hi erioed. Ac wedi iddynt fwyta eu brecffast, y cyrchodd y brenia tua'r