Tudalen:Cymru fu.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tŵr i geisio deheurwydd am y wraig, megys y cawsai am y fodrwy. A hithau a'i rhagflaenodd y ffordd nesaf, ac a roes y dillad hyny heibio, a gwisgo cartref-wisg amdani. A phan welodd y brenin hyny, digiodd wrtho ei hun yn fwy o lawer nag y darfuasai am y fodrwy. Ac ar ben ychydig o amser, y marchog a welodd nad oedd weddus iddo gadw brenhines y brenin yn ei blas ei hun; ac efe a gafodd yn ei gynghor barotoi llong fawr, a'i llanw o bob rhyw dda; ac yna efe a ddeisyfodd genad gan y brenin i fyned i ymweled â'i wlad, o achos na buasai efe yno er ys talm o amser. A'r brenin a ganiataodd iddo. tranoeth, cyn eu cychwyn oddi cartref, dyfod a wnaeth i'r eglwys at y brenin, lle yr oedd ef yn gwrando yr offeren, a deisyf arno ef beri i'r offeiriad teilwng ei briodi ef a'i ordderch cyn eu myned i'w gwlad; a'r brenin a beris eu priodi; ac ef a roes ei wraig ei hun, ar ddrws ei eglwys, heb yn wybod iddo. Wedi eu priodas, hwy a aethant i'r llong; ac ar fyr wedi hyny, yr aeth y brenin tua'r tŵr, ac a'i cafodd yn wag o'i frenhines, wedi ei myned gyda'r marchog. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau, o pheri ro'i dy fab i angau o'i hachos hi." "Na pharaf yn wir heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r ymherodres a ddywed yn drist ac yn alarus wrth yr ymherawdwr, "Ef a dderfydd i ti megys y darfu gynt i ystiwart brenin y Pŵl." " Beth oedd hyny?" ebai'r ymhaerawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar roi'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Y brenin hwnw a fagasai glefyd o'r tu fewn; ac wedi ei feddyginiaethu a'i wneud yn iach, y meddyg a erchia i'r brenin logi gwraig i gysgu gydag ef y nos hono, er ugain punt. A'r brenin a archodd i'w ystiwart ymofyn y wraig iddo. Sef a wnaeth yr ystiwart, o chwant y da, dwyn ei wraig briod ei hun i'r brenin. Bore dranoeth, yr ystiwart a ddaeth, ac a archodd iddi godi i fynu a myned adref; a'r brenin a gododd i fynu, ac ni adawodd iddi fyned oddiyno. A'r ystiwart a ddaeth yr ail waith, ac a erchis iddi fyned adref ar ffrwst; ac er hyny y brenin a'i cadwodd hi. A'r drydedd waith, yr ystiwart a ddaeth, gan ddweyd wrth ei arglwydd pa fodd y gwnaeth o chwant y da. A phan glybu y brenin ei fod mor chwanog â hyny i gyfoeth, efe a gymerth ei holl dda ef yn fforfed, a dwyn ei swydd oddiarno, a chadw ei wraig gydag ef, a'i anfon yntau o'i frenhiniaeth ef," "Ac felly y derfydd i tithau, o chwant gwrando ar