Tudalen:Cymru fu.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddoethion Rhufain, y rhai sydd yn nghylch dy ddileu di a'r deyrnas; ac er hyny, mi a gaf ddigon o dda gan fy nghenedl." Yna yr ymherawdwr a lidiodd yn fawr am y gair hwnw, ac a ddywed y parai ef ro'i y mab i angau bore dranoeth. A'r bore hwnw y daeth efe i'r dadleudy, ac yr erchis ro'i'r mab i angau heb ohir.

Yna y codes Martenws, ac y dywedai fel hyn: "Ef a dderfydd iti megys y darfu i hen wr da boneddig am wraig ifanc a briodes ef." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it' oni ro'i di dy gred ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Hen wr boneddig a briodes wraig ifanc. A hi a fu gywir iddo flwyddyn. Ac ymddyddan a orug â'i mam yn yr eglwys, a dywedyd ei bod hi yn caru gwas ifanc. Yna y dywed ei mam, ' Prawf anwydau dy ŵr priod yn gyntaf, a gwna di fel hyn: Tòr y coed ifainc sydd yn tyfu yn y berllan, a dod hwy ar y tân. Ac wedi darfod iddi hyny, dyma'r gŵr yn dyfod i'r tŷ, yn canfod y coed ar y tân, a gofyn pwy a'u rhoisai ar y tân. A'r wraig a ddywed mai hi a'i rhoisai, er mwyn gwneud tân iddo i ymdwymno wedi ei ddyfod adref. Tranoeth, cyfarfu ei mam a hithau yn yr eglwys, a hi a fynegodd y ddamwain iddi, ac a ddywed ei bod hi yn caru y gwas ifanc yn wastad. A'i mam a erchis iddo brofi anwydau ei gŵr yr ail waith. Ac fel yr oedd y gŵr dranoeth yn dyfod o hela, a bytheuades oedd iddo, ag oedd anwylach ganddo na'r holl gŵn eraill; hono a ddaeth i'r tŷ ychydig o flaen y meistr, a'r wraig a gymerth brac o gyllell hir yn ei llaw, ac a frathodd y fytheuades drwyddi, o ni bu farw, Ac y dywed hithau mai'r âst a sangasai ar bwrffil ei phais newydd hi; ac y dywed na wnai felly mwy. A'r gwr ni ddywed mwy wrthi. A thranoeth hi a ddywed wrth ei mam fel y gwnaeth, a'i bod yn caru y gwas ieuanc i maes o fesur. Gofyn a wnaeth ei mam iddi pwy oedd efe. Hithau ddywed mai yr offeiriad plwyf ydoedd, ac nad oedd iddi hi ddiolch er ei garu. 'Ie' ebai'r fam, 'prawf anwydau dy ŵr priod y drydedd waith, ac ofna yn nghyntaf rhag bod yn greulonach dig ofaint gwr hen pan ddigio na gŵr ifanc' Ac o anog ei mam y profodd hi fel hyn: tranoeth, yr oedd y gŵr yn gwneuthur gwledd i holl foneddigion y ddinas; ac wedi gosod pawb i eistedd, a gwasanaethu y cwrs cyntaf, sef a wnaeth hithau sefyll wrth ben y ford, a rhwymo cornel y llian wrth allwedd ei phrenfol, a dwyn rhedegfa tua'r ystlys arall i'r tŷ, a thynu y lliain, a'r bwyd a'r ddiodoedd arno, i ganol y llawr. Ac esguso drosti a wnaeth y gŵr,