Tudalen:Cymru fu.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddywed ' fod y brain yn dywedyd y bydd yn dda genych chwi ddal blaenion fy llewys tra bwyf fi yn ymolchi, a'm. mam yn dala tywel.' A llidio a orug y marchog am y gair hwnw, ac ymafael yn ei fab, a'i fwrw dros y bwrdd i'r môr, a myned ymaith a'i ysgraff ganto. Ac megys yr oedd Duw yn ei fynu, y môr a dewlis y mab i ystlys craig oedd yn y môr; âc ar ei draed a'i ddwylo, myned o'r mab i ben y graig; a daeth. pysgodwyr heibio, a chanfod y mab yno ar farw o newyn, a'i gymeryd i mewn i'w llestr, a'i werthu i ystiwart o wlad bell er ugain punt. Ac oherwydd ei foesgarwch a'i ddysg, efe a gafodd anrhydedd mawr. A'r amser hwnw, brenin y wlad hono oedd yn cael ei flino o achos fod tair brân yn gregan uwch ei ben ef nos a dydd heb orphwys; pa le bynag yr elai, byddai y tair brân yn ei aflonyddu yn wastad. Yna, galw a wnaeth ei gynghoriaid, gan ddywedyd, pwy bynag o ŵr ifanc sengl a gymerai arno dynu y brain oddiwrtho, ef a gai ei ferch ef yn briod, a haner ei frenhiniaeth gyda hi. Gyrwyd cenadau i bob lle; ac nid oeddid yn cael neb a gymerai arno wneuthur hyny. A daeth marchog gerbron y brenin, gan ddywedyd, o cwblhäi ef ei addewid. y tynai yntau y brain oddiwrtho. 'Gwnaf yn wir,' ebai'r brenin. A'r mab a ddywed: 'llyma yr achos y mae'r brain yn aflonyddu arnat, nid amgen nag er's deng mlynedd neu fwy y bu newyn ar yr adar, a'r brain ieuainc mewn perygl o'u bywyd gyda hwynt; yntau a aeth i wledydd pell i geisio ymborth; ac yna y daeth brân arall ati hithau, ac a'i helpiodd hi i amddiffyn ei hadar; ac yn awr, wedi gwellhau y byd, a bod digon o ymborth yn mhob lle, daeth yr hen frân yn ol drachefn; a dywed y ddwy frân arall na chaiff' hi ddyfod; ac y mae'r tair brân wedi bwrw y mater at eich barn chwi, oherwydd eich bod yn frenin. 'Yna y brenin a'i gynghoriaid a'i barnodd hi i'r cymhar diweddaf; yr hwn a'i helpiodd hi a'i hadar pan oedd hi mewn perygl angau, ac a'i dilynodd hi o hyny hyd heddyw; ac nad oedd i'r llall ddim o honi. A'r hen frân a hedfanodd i'r naill ffordd ei hun, gan grio a germain; a'r ddwy frân eraill a hedasant ffordd arall yn llawen ac yn gytûn. "

"Ac yna yr oedd merch y brenin i'r mab yn briod, a haner y frenhiniaeth gyda hi. Ac un diwrnod yr oedd y brenin ieuanc yn myned trwy y sytai, ef a welai ei dad a'i fam yn myned i letya i ostri gyffredin yn nghanol y dref, yn dlodion, wedi darfod o'u da, a gorfod arnynt ado eu gwlad o eisiau da. A'r nos hono, y brenin ieuanc a ddanfones genad i beri parotoi ei frecffast ef yno erbyn naw ar