Tudalen:Cymru fu.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua'r eglwys, i ymofyn os sylweddolwyd ei obaith olaf bron am ddyfod o byd i'r un a garai. Eithr, nid aethai nepell, oni chyfarfyddodd a'i gyfeillion; a'u golwg adfydus a siomedig yn bradychu'n ddioed i'w feddwl cynhyrfus ef nad oedd ei un anwyl wedi ei chael. Nid oedd eisiau gofyn nac ateb; yr oedd y ffaith alarus yn cael ei llefaru yn eu hwynebau. Edrychasant yn fudanod ar eu gilydd. Hylldremiodd Rhys o'i ddeutu fel un yn edrych am fan i ddianc rhag angau, heb le i guddio ei hunan ofnus; yna, ymdeimlai fel pe yn cerdded i nos ystormus — syrthiodd ar y ddaear, a gorweddai mewn llewyg pan y dynesasant ato, ac yn y sefyllfa hono y dygasant ef adref.

Y nos hono, gwelid goleuni yn ymsymud yn ol a blaen yn mhob cyfeiriad; a chlywid lleisiau yn galw ei henw, yr hyn a ddiaspedid gan y clogwyni, ac atebid gan ddallhuanod, neu gan bysgodwyr lluddedig yn nghyffiniau'r môr; chwiliwyd pob lle tebygol ac anhebygol hefyd, pob twmpath, pob ysgafell, ond yn gwbl ofer; cribau y creig anial a gwaelodion nentydd anhygyrch, ond dim y rhithyn lleiaf o'i hanes:

Chwilio pob man am dani,
A chwilio heb ei chael hi.

Ni ddaeth Meinir mwy i adloni llygaid ei hen dad diallu, nac i gysuro yspryd truenus ei chariad a'i chefnder, gan na welwyd ac na chlybuwyd dim mwy oddiwrthi na phe buasai'r ddaear wedi ei lladd wrthi 'i hun a'i chladdu yn y nos — ei chladdu ar ddydd ei phriodas, fel y rhagddywedasai hi yn gellweirus wrth Rhys y nos flaenorol o tan yr hen geubren.

Pan ddadebrodd Rhys y prydnawn hwnw o'i lewyg, ei lygaid a grwydrent yn wyllt ogwmpas yr ystafell, a gwelai ddarpariadau y briodas yn parhau i'w haddurno; nes y rhuthrodd y cwbl i'w feddwl eilwaith. Tywynai'r haul o fan ei fachludiad trwy y ffenestr fechan ar ei wyneb gwelw, a gwyddai oddiwrth hyny fod y dydd yn tynu i'w derfyn — mor ddymunol a chyson fuasai y fath olygfa i briodfab hapus; ac mor anghyson â'i sefyllfa ef, druan siomedig — llefarai wrtho fod y nos yn nesu, fod oriau heddychol y cyfnos wedi lledu eu hedyn euraidd ac adfywiol ar y byd, — ac yntau mewn clefyd, a'i ymenydd ar dân, yn dihoeni ar ei wely, ie, ei wely priodas — yn unig — a pha le yr oedd Meinir?

Yn unol ag arferiad yr oes hygoelus hono, ymofynwyd yn union deg am gymhorth dewinio. Tra yr oedd un chwaer yn gwylio gwely'r claf, prysurodd y llall gynted