Tudalen:Cymru fu.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y fan apwyntiedig i gyfarfod ei anwylyd, yn foddfa o chwys gan bryder, ac yn methu dirnad na dyfeisio beth a allasai gadw ei Feinir cyhyd. Cerddai yn ol a blaen, curai ei fodiau yn y ddaear, a pho hwyraf yr elai'r dydd mwyaf yn y byd oedd ei benbleth yntau. Yr oedd yr haul eisoes wedi cyrhaedd ei awr anterth; a'r offeiriad, yn ol pob tebyg, wedi blino'n disgwyl, a dychwelyd adref. A pha beth oedd ei syndod pan ddychwelodd "Y gwyr o wisgi oed," a Meinir yn absenol! "Nenw'r anwyl, pa le maeMeinir?" " Ydi hi ddim gyda thi, Rhys!" ebynt hwythau un ac oll. "Y mae hi wedi chwareu cast gyda chwi a minau; yn rhywle yn y Nant y mae hi; rhedwch yn ol, rhedwch yn ol fel am eich bywyd, onide bydd yn rhyhwle!" "I ba beth y rhedwn yno? Nid oes yno yr un enaid byw ond dy ewythr, ac ni welodd ef mo honi er pan ddiangodd hi rhagom oddiwrth y mwdwl gwair." Safai Rhys fel delw; nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud; a chan chwerthin math o chwerthiniad gwag, dywedai, "Wrantaf fi eu bod hi tu cefn i'r eglwys bellach, ond rhag ofn, mi a âf fy hunan tua'r Nant i chwilio am dani. rhedwch!" ac ymaith ag ef tuag adref fel ar aden y gwynt. Chwiliasant hwythau bob man oddeutu'r eglwys a'r fynwent, ond heb weled na chlywed dim oddiwrthi. Yr oedd Rhys yn benderfynol ei bod yn un o'r ddau fan; ond pan gyrhaeddodd adref, edrychodd yn hurt ar yr hen ŵr wrth gael ar ddeall ganddo nad oedd hi yno, canys yr oedd un aden i'w obaith wedi ei thori. Er hyny, eisteddodd i lawr wrth ochr ei ewythr, a suai ei hunan i heddwch wrth fyfyrio pa berygl allai ei gorddiwes mewn gyrfa mor fer. Yr oedd hefyd yn ganol dydd goleu; nid oedd na chors na phydew ar ei ffordd; na dynion drwg i'w niweidio mewn gwlad na chlybuwyd am yspeiliad pen ffordd na llofruddiaeth o'i mewn yn nghôf neb byw; yr oedd ef ei hun wedi dyfod ar hyd y llwybr y dylasai hi fyned ar hyd-ddo, a phe syrthiasai hi trwy ddamwain ar ei thaith, rhaid fuasai iddo ef ddyfod o hyd iddi. Yn fyr, yr oedd yr anmhosiblrwydd i ddim niwaid ddigwydd iddi, am enyd yn suo ei feddwl i ddyogelwch ac esmwythder. Ond yr eilad nesaf, neidiodd i fynu, "Y nefoedd fawr!" meddai, "paham yr eisteddaf yma?" fel y rhuthrai y dirgelwch ar eifeddwl, acy gwelai fod yr amser i briodi wedi myned heibio; ac yntau, ddylasai fod yn wr priod er's awr bellach, yn eistedd mor hamddenol yno i gyfnewid geiriau diles gyda'i ewythr; a hithau, pwy wyddai pa le?

Ymaith ag ef unwaith yn rhagor i fynu'r allt, a'i wyneb