Tudalen:Cymru fu.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddistadl, oddeutu'r dâs fawn, y llwyni rhedyn tu cefn i'r tŷ, ac agenau'r graig tu cefn i hyny, — chwiliwyd y cwbl, ond yn ofer; a phan ar roddi'r ymchwil i fynu, disgynodd llygaid un o'r cwmni ar droed y ffoadures yn ymrithio allan oddi tan un o'r mydylau gwair yn y maes gerllaw, a rhoddodd y cwmni oll bloedd orfoleddus oherwydd y darganfyddiad. Ac awgrymai y floedd i Meinir mai ffolineb iddi aros yn hwy yn y fan yr ydoedd. Neidiodd i fynu, a disgynai'r gwair a'r meillion oddiwrth ei gwisg; syllodd ar ei hymlidwyr am fynyd, yn haner ofnus, haner awyddus i gael ei dal; ond gan wenu'n chwareus arnynt, ffwrdd a 'hi tua rhyw lwybr anhygyrch yn y goedwig, gan ddiflanu o'u golwg fel duwies y coed (nymph) neu ddrychiolaeth.

Yr oedd y briodas i gymeryd lle yn Nghlynog Fawr, trwy drefniad arbenig, am mai yno y priodasai tad Meinir ei mam, ac ewyllys yr hen ŵr oedd iddi hithau gael ei phriodi yn yr un lle. A'r fath wyl ydyw priodas mewn llan bychan, diog, mynyddig! Daw pob cnawd o'i fewn at eu drysau i weled yr orymdaith yn myned heibio; a bydd y plant wedi haner gwallgofi mewn digrifwch. Trethir y coed a'r ardd i anrhydeddu y digwyddiad. Yr oedd y llwybr rhwng porth y fynwent â'r eglwys wedi ei orchuddio gan gangau a blodeu; ac nid oedd y plant, cofiwch, heb ddisgwyl bendithion crynion am hyn. Yr oedd Dafydd Gloff, y Telyniwr, hefyd, gyda'r un disgwyliad clodwiw, wedi gosod ei hun ar gareg fedd, a'i offeryn cerdd yn ei law, yn barod i daro cainc wrth i'r cwmni fyned heibio; a'r "plant direidus," chwedl yntau, bron, bron a'i fyddaru gyda eu deisyfiadau am alaw ganddo, y dewraf rai o'r dyhirod bychain yn cyffwrdd â'r tanau weithiau, er mwyn lladrata tipyn o sŵn; a Deio, oni ddiangent, yn gosod ei fagl yn lled hwylus ar eu gwarau. Yr oedd rhai ,o'r cywion diriad a llawenfryd wedi dringo'r coed, gan y gallent oddiyno weled milldir o'r ffordd, a dyna lle 'roedd eu cyfoedion ar y llawr yn gofyn iddynt, "Welwch chwi nhw, lads! yden nhw yn dwad?" Ond nid oedd hanes am danynt. Tua'r amser yma hefyd dychrynwyd y dysgwylwyr hygoelus yn fawr gan waith un o'r plant, hogyn haner call, druan, yn taenu dyrnaid o lysiau gwenwynig hyd y llwybr, llysiau a deflid gan elynion a chydymgeiswy r siomedig — arwyddluniau o ddrwg- ewyllys iddynt gael bywyd adfydus. Er mor fechan oedd y weithred hon, eto yn nhyb y bobl ddysgwylgar hyny rhagarwyddai fod rhy w beth o'i le.

Ond yn y cyfamser, pa le yr oedd Rhys? Wel, yr oedd